Cyfarfodydd
Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 19/09/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y
newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth am y tair wythnos nesaf.
Dydd Mawrth
26 Medi 2023 -
- Datganiad gan y Gweinidog
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cydnerthedd y System Iechyd a Gofal
Cymdeithasol (
3045 munud) - Datganiad gan Ddirprwy
Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth: Cadw: ymgysylltu
cymunedau â threftadaeth (30 munud)
Dydd Mawrth
3 Hydref 2023 -
- Datganiad gan y Cwnsler
Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Y Bil Etholiadau a Chyrff
Etholedig (Cymru) (60 munud)
- Datganiad gan y Dirprwy
Weinidog Newid Hinsawdd: Diweddariad ar y Bil Tacsis a Cherbydau Hurio
Preifat (Cymru) (30 munud)
- Datganiad gan Weinidog y
Gymraeg ac Addysg: Diweddariad ar Taith – Rhaglen Cyfnewid Dysgu
Rhyngwladol Cymru (30 munud)
Gofynnodd Heledd Fychan eto am ddiweddariad llafar ar
newidiadau posibl i Gyllideb 2023-24. Cadarnhaodd y Trefnydd y byddai'r
Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn gwneud datganiad llafar yn ystod yr
wythnosau nesaf.