Cyfarfodydd

P-06-1357 Llunio Cynllun Gweithredu Microblastigau newydd i Gymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 06/10/2025 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1357 Llunio Cynllun Gweithredu Microblastigau newydd i Gymru?

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunwyd bod y ddeiseb bellach wedi dod i ddiwedd ei thaith gyda'r Pwyllgor Deisebau. Diolchodd yr Aelodau y deisebydd am ei ymgysylltiad gweithredol yn codi’r mater, a chaeodd y ddeiseb.

 


Cyfarfod: 30/06/2025 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1357 Llunio Cynllun Gweithredu Microblastigau newydd i Gymru?

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i dynnu sylw Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig at bryderon ac argymhellion y deisebwyr a gofyn am ei ymateb iddynt. Byddai'r ddeiseb yn cael ei chadw ar agor tra'n disgwyl ymateb ganddo. Bydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith yn cael copi o'r ohebiaeth i godi ymwybyddiaeth o’r materion perthnasol.

 


Cyfarfod: 29/01/2024 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1357 Llunio Cynllun Gweithredu Microblastigau newydd i Gymru?

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i'w chadw ar agor a gofyn i'r deisebydd roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor ar ôl iddo gyfarfod â swyddogion Llywodraeth Cymru.

 


Cyfarfod: 25/09/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1357 Llunio Cynllun Gweithredu Microblastigau newydd i Gymru?

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu'n ôl at y Gweinidog i ofyn a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu gweithio gyda sefydliadau ac arbenigwyr perthnasol i lunio Cynllun Gweithredu Microblastigau fel y disgrifiwyd gan y deisebwyr.