Cyfarfodydd

Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer 2022-23 a'r Amcangyfrif ar gyfer 2024-25

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 07/02/2024 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 2)

2 PTN 4 - Llythyr gan Archwilio Cymru: Ymateb i waith craffu blynyddol y Pwyllgor Cyllid ar Swyddfa Archwilio Cymru – 1 Chwefror 2024

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 15/11/2023 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 9)

9 Gwaith craffu blynyddol ar Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru: Trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

FIN(6)-19-23 P2 – Adroddiad drafft (I'w gynnwys yn y pecyn atodol)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytuno arno.

 


Cyfarfod: 09/11/2023 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 3)

3 Archwilio Cymru - Craffu ar Amcangyfrif 2024-25 a'r Adroddiad Interim 2023-24: Sesiwn dystiolaeth

Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru

Kathryn Chamberlain, Cadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru

Kevin Thomas, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Corfforaethol

Ann-Marie Harkin, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Archwilio

 

Dogfennau ategol:

FIN(6)-18-23 P1 - Amcangyfrif o Incwm a Threuliau Archwilio Cymru ar gyfer y flwyddyn sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2025

FIN(6)-18-23 P2 - Gwybodaeth ategol ar gyfer Amcangyfrif o Incwm a Threuliau Archwilio Cymru y flwyddyn sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2025

FIN(6)-18-22 P3 – Adroddiad Interim – Asesiad o gynnydd a wnaed o’i gymharu â’n Cynllun Blynyddol ar gyfer 2023-24 yn ystod y cyfnod o 1 Ebrill hyd 30 Medi 2023

Papur briffio gan Ymchwil y Senedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru; Cadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru; a swyddogion Archwilio Cymru ar Amcangyfrif 2024-25 ac Adroddiad Interim 2023-24 Archwilio Cymru.


Cyfarfod: 09/11/2023 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 5)

Archwilio Cymru - Craffu ar Amcangyfrif 2024-25 a'r Adroddiad Interim 2023-24: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.


Cyfarfod: 11/10/2023 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 2)

2 PTN 1 – Llythyr gan Archwilio Cymru: Rhagor o wybodaeth yn dilyn sesiwn Archwilio Cymru ar 20 Medi - 2 Hydref 2023

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 20/09/2023 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 3)

3 Archwilio Cymru – Gwaith craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2022-23 a Chynllun Blynyddol 2024-25: Sesiwn dystiolaeth

Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru, Archwilio Cymru

Kathryn Chamberlain, Cadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru, Archwilio Cymru

Kevin Thomas, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Corfforaethol

Ann-Marie Harkin, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Archwilio

 

Dogfennau ategol:

FIN(6)-14-23 P1 - Archwilio Cymru: Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2022-23

FIN(6)-14-23 P2 - Archwilio Cymru: Adroddiad ar ganfyddiadau'r archwiliad – y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2023

FIN(6)-14-23 P3 - Archwilio Cymru: Cynllun Blynyddol 2023-24

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Archwilio Cymru ar gyfer 2022-23 a Chynllun Blynyddol 2024-25 gan Archwilydd Cyffredinol Cymru; Cadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru; a swyddogion Archwilio Cymru.

 

3.2 Cytunodd Archwilio Cymru i ddarparu’r wybodaeth a ganlyn:

 

·         Manylion ychwanegol am gyfradd trosiant staff ar draws y sefydliad yn ystod y deuddeg mis blaenorol, gan gynnwys dadansoddiad o rolau'r staff a adawodd a nifer y staff archwilio cymwysedig a adawodd y sefydliad yn ystod y cyfnod hwnnw.