Cyfarfodydd

P-06-1352 Cymeradwyo adeiladu trydedd bont dros y Fenai

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 29/01/2024 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1352 Cymeradwyo adeiladu trydedd bont dros y Fenai

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Peredur Owen Griffiths AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae ganddo aelodau o'r teulu sy'n byw yn yr ardal.

 

Datganodd Mike Hedges AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae ei ferch yn croesi'r bont yn ddyddiol.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i'w chadw ar agor nes y ceir ymateb gan y Gweinidog i'r adroddiad.

 


Cyfarfod: 11/09/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)

2 P-06-1352 Cymeradwyo adeiladu trydedd bont dros y Fenai

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i'w chadw ar agor tan y ceir ymateb y Gweinidog i gynigion Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru ar gyfer Menai.