Cyfarfodydd
NDM8315 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gwasanaeth Iechyd Gwladol
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 05/07/2023 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 8)
- Gweddarllediad ar gyfer 05/07/2023 - Y Cyfarfod Llawn
- Trawsgrifiad ar gyfer 05/07/2023 - Y Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gwasanaeth Iechyd Gwladol
NDM8315 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn dathlu 75
mlynedd ers creu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
2. Yn nodi rhybudd
Cymdeithas Feddygol Prydain bod gwasanaethau meddygon teulu a Gwasanaeth Iechyd
Gwladol Cymru mewn argyfwng ac mewn perygl o chwalu.
3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau 75 mlynedd nesaf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol drwy
ddiwallu anghenion cleifion a staff a chynnal yr egwyddor graidd o fod yn am
ddim lle bynnag y bo’i angen.
Achubwch
Ein Meddygfeydd, PMT Cymru - Cymdeithas Feddygol Prydain
Llythyr
gan Gymdeithas Feddygol Prydain at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol (Saesneg yn unig)
Cyflwynwyd y gwelliant
a ganlyn:
Gwelliant 1 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn
credu bod preifateiddio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn fygythiad sylfaenol i'n
gwasanaeth iechyd ac y dylai darparu gofal iechyd am ddim lle bynnag y bo’i
angen barhau i fod yr egwyddor wrth wraidd darpariaeth gofal iechyd yng
Nghymru.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.45
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM8315 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn dathlu 75 mlynedd ers
creu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
2. Yn nodi rhybudd Cymdeithas
Feddygol Prydain bod gwasanaethau meddygon teulu a Gwasanaeth Iechyd Gwladol
Cymru mewn argyfwng ac mewn perygl o chwalu.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i sicrhau 75 mlynedd nesaf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol drwy ddiwallu anghenion
cleifion a staff a chynnal yr egwyddor graidd o fod yn am ddim lle bynnag y
bo’i angen.
Achubwch
Ein Meddygfeydd, PMT Cymru - Cymdeithas Feddygol Prydain
Llythyr
gan Gymdeithas Feddygol Prydain at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Saesneg yn unig)
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
36 |
51 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
51 |
0 |
0 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM8315 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn dathlu 75 mlynedd ers
creu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
2. Yn nodi rhybudd Cymdeithas
Feddygol Prydain bod gwasanaethau meddygon teulu a Gwasanaeth Iechyd Gwladol
Cymru mewn argyfwng ac mewn perygl o chwalu.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i sicrhau 75 mlynedd nesaf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol drwy ddiwallu anghenion
cleifion a staff a chynnal yr egwyddor graidd o fod yn am ddim lle bynnag y
bo’i angen.
4. Yn credu bod preifateiddio'r
Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn fygythiad sylfaenol i'n gwasanaeth iechyd ac y
dylai darparu gofal iechyd am ddim lle bynnag y bo’i angen barhau i fod yr
egwyddor wrth wraidd darpariaeth gofal iechyd yng Nghymru.
Achubwch Ein Meddygfeydd, PMT Cymru - Cymdeithas
Feddygol Prydain
Llythyr gan Gymdeithas Feddygol Prydain at y Gweinidog
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Saesneg yn unig)
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
51 |
0 |
0 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd