Cyfarfodydd
NDM8273 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Gwasanaethau epilepsi
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 05/07/2023 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 6)
- Gweddarllediad ar gyfer 05/07/2023 - Y Cyfarfod Llawn
- Trawsgrifiad ar gyfer 05/07/2023 - Y Cyfarfod Llawn
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Gwasanaethau epilepsi
NDM8273 Luke Fletcher (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) bod
cyffredinrwydd epilepsi ledled Cymru yn 1 y cant (tua 32,000 o bobl ag
epilepsi), gydag amrywiad lleol yn gysylltiedig â lefelau amddifadedd;
b) bod 11.5 o nyrsys
arbenigol epilepsi cyfwerth ag amser cyfan yng Nghymru, sy'n cyfateb i gymhareb
o 1 nyrs i bob 2,823 o gleifion;
c) bod adroddiad
Steers (2008) yn argymell cymhareb o 300 o gleifion i un nyrs arbenigol
epilepsi a fyddai'n cyfateb i gyfanswm o 107 o nyrsys arbenigol
epilepsi yng Nghymru.
2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i:
a) cefnogi mesurau i
leihau amseroedd aros presennol i gleifion a defnyddwyr gwasanaeth sy'n
defnyddio gwasanaethau epilepsi;
b) cefnogi gweithwyr
iechyd proffesiynol yng Nghymru, drwy sicrhau bod y lefelau staffio ar draws
byrddau iechyd Cymru yn cael adnoddau priodol i gyflawni a chynnal
cynaliadwyedd, diogelwch cleifion, ac ansawdd gwasanaeth.
Report
of the Welsh Neuroscience External Expert Review Group Recommendations for Mid
and South Wales (Saesneg yn unig)
Cefnogwyr
Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru)
Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)
Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin
Cymru)
Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)
Peredur Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru)
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 15.31
NDM8273 Luke Fletcher (Gorllewin De
Cymru)
Cynnig
bod y Senedd:
1.
Yn nodi:
a)
bod cyffredinrwydd epilepsi ledled Cymru yn 1 y cant (tua 32,000 o bobl ag
epilepsi), gydag amrywiad lleol yn gysylltiedig â lefelau amddifadedd;
b)
bod 11.5 o nyrsys arbenigol epilepsi cyfwerth ag amser cyfan yng Nghymru, sy'n
cyfateb i gymhareb o 1 nyrs i bob 2,823 o gleifion;
c)
bod adroddiad Steers (2008) yn argymell cymhareb o 300 o gleifion i
un nyrs arbenigol epilepsi a fyddai'n cyfateb i gyfanswm o 107 o
nyrsys arbenigol epilepsi yng Nghymru.
2.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a)
cefnogi mesurau i leihau amseroedd aros presennol i gleifion a defnyddwyr
gwasanaeth sy'n defnyddio gwasanaethau epilepsi;
b)
cefnogi gweithwyr iechyd proffesiynol yng Nghymru, drwy sicrhau bod y lefelau
staffio ar draws byrddau iechyd Cymru yn cael adnoddau priodol i gyflawni a
chynnal cynaliadwyedd, diogelwch cleifion, ac ansawdd gwasanaeth.
Report of
the Welsh Neuroscience External Expert Review Group Recommendations for Mid and
South Wales (Saesneg
yn unig)
Cefnogwyr
Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru)
Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)
Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)
Peredur Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru)
Sioned Williams (Gorllewin De Cymru)
Tom Giffard (Gorllewin De Cymru)
Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.