Cyfarfodydd

Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Gweithgarwch Economaidd Cyrff Cyhoeddus (Materion Tramor)

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 27/02/2024 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 5)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gweithgarwch Economaidd Cyrff Cyhoeddus (Materion Tramor)

NDM8490 Rebecca Evans (Gŵyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn ‌y Bil Gweithgarwch Economaidd Cyrff Cyhoeddus (Materion Tramor), i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Medi 2023 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

‌Y Bil Gweithgarwch Economaidd Cyrff Cyhoeddus (Materion Tramor)

Dogfennau Ategol

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.28

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM8490 Rebecca Evans (Gŵyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn ‌y Bil Gweithgarwch Economaidd Cyrff Cyhoeddus (Materion Tramor), i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Medi 2023 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

‌Y Bil Gweithgarwch Economaidd Cyrff Cyhoeddus (Materion Tramor)

Dogfennau Ategol

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

0

33

47

Gwrthodwyd y cynnig.

 


Cyfarfod: 08/01/2024 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 7)

7 Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gweithgarwch Economaidd Cyrff Cyhoeddus (Materion Tramor)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol.


Cyfarfod: 20/11/2023 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 10)

10 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gweithgarwch Economaidd Cyrff Cyhoeddus (Materion Tramor)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft diwygiedig a chytunodd arno.


Cyfarfod: 16/11/2023 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus (Eitem 7)

7 Ystyried y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gweithgarwch Economaidd Cyrff Cyhoeddus (Materion Tramor)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

1.1 Trafododd y Pwyllgor y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol

 


Cyfarfod: 16/11/2023 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus (Eitem 2)

2 Ymateb Llywodraeth Cymru i'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gweithgarwch Economaidd Cyrff Cyhoeddus (Materion Tramor)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 13/11/2023 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 7)

7 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Gweithgaredd Economaidd Cyrff Cyhoeddus (Materion Tramor): Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft a chytunodd i drafod drafft arall yn ei gyfarfod nesaf.


Cyfarfod: 06/11/2023 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 9)

9 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gweithgarwch Economaidd Cyrff Cyhoeddus (Materion Tramor)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunodd i drafod adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol. Nododd yn ffurfiol hefyd yr ohebiaeth rhwng y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, a Chadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn am eglurhad pellach.


Cyfarfod: 12/10/2023 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus (Eitem 6)

6 Briff cyfreithiol ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Gweithgarwch Economaidd Cyrff Cyhoeddus (Materion Tramor)

Papur ategol:

Papur briffio gan y Gwasanaeth Cyfreithiol (Saesneg yn unig)

 

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Gweithgarwch Economaidd Cyrff Cyhoeddus (Materion Tramor)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor ganllawiau a ddarparwyd gan dîm Cyfreithiol y Senedd ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol.