Cyfarfodydd
Unrhyw Fusnes Arall
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 10/07/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 7)
Unrhyw Fater Arall
Cofnodion:
Amcangyfrifon costau diwygio'r Senedd - Cafodd y Comisiynwyr ddiweddariad bod gwaith wedi'i
wneud ar ailbroffilio'r costau y cytunwyd arnynt yn flaenorol, a bod disgwyl i ohebiaeth
ddod i law dros yr haf cyn cyflwyno deddfwriaeth.
Llythyr at y Llywydd gan y Bwrdd Taliadau - ymhellach i’r cytundeb i sefydlu mecanwaith ar gyfer
deialog am gefnogaeth i Aelodau yn y dyfodol, hysbyswyd y Comisiynwyr fod y
Llywydd wedi cael llythyr yn nodi meysydd o ddiddordeb i'r Bwrdd y mae’n eu
nodi a allai fod yn croesi ar draws gwasanaethau a ddarperir gan y Comisiwn.
Byddai'r llythyr yn cael ei rannu gyda Chomisiynwyr a darperir rhagor o
wybodaeth yn yr hydref.
Dadl Fer - cytunwyd y byddai Comisiynydd
yn ymateb i'r Ddadl Fer a drefnwyd ar gyfer dydd Mercher 12 Gorffennaf.
Ymgynghoriad o dan
3(b) Dirprwyo swyddogaethau Comisiwn y Senedd -
Ymgynghorodd y Clerc â’r Comisiynwyr, a oedd yn fodlon â mân newid arfaethedig
i delerau ac amodau swydd ar lefel cyfarwyddwr.
Yn y cyfnod ers y
cyfarfod diwethaf roedd y Comisiynwyr wedi nodi llythyr at y Pwyllgor Cyllid ar
eu hadolygiad o'r datganiad o egwyddorion.
Ar ôl cael ei benodi'n Gomisiynydd, rhoddodd Adam Price
AS wybod i Brif Ysgrifennydd y Comisiwn fod ei frawd yn gweithio i Gomisiwn y
Senedd.