Cyfarfodydd
NDM8294 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Anghenion dysgu ychwanegol
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 14/06/2023 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 7)
- Gweddarllediad ar gyfer 14/06/2023 - Y Cyfarfod Llawn
- Trawsgrifiad ar gyfer 14/06/2023 - Y Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Anghenion dysgu ychwanegol
NDM8294 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) bod nifer y plant a
phobl ifanc sy'n derbyn cymorth anghenion dysgu ychwanegol (ADY) wedi gostwng
ers cyflwyno diwygiadau anghenion dysgu ychwanegol y llynedd;
b) bod oedi a heriau
wrth gyflwyno diwygiadau ADY yn achosi loteri cod post mewn mynediad at
gymorth ADY i ddysgwyr ledled Cymru; ac
c) bod ymchwil
gan Gymdeithas Genedlaethol Prifathrawon Cymru wedi canfod bod 94 y cant o
arweinwyr ysgolion yn dweud nad yw cyllid i ymdrin â phob agwedd ar
ddeddfwriaeth ADY newydd yn ddigonol.
2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i:
a) cynnal adolygiad
brys o weithredu diwygiadau ADY;
b) cymryd camau brys i
sicrhau bod plant ag ADY yn cael eu hadnabod a'u bod yn cael mynediad at
gymorth yn gynt; ac
c) darparu cymorth
ariannol ychwanegol yn uniongyrchol i ysgolion Cymru i sicrhau bod dysgwyr ag
ADY yn gallu cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt.
'Methiant
i Fuddsoddi: Cyflwr cyllido ysgolion Cymru yn 2021' - NAHT Cymru
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu pwynt 1 a rhoi
yn ei le:
Yn nodi bod
Estyn wedi canfod bod
cynnydd cyson tuag at roi’r diwygiadau ADY ar waith a bod y newidiadau yn cael
eu croesawu'n gyffredinol.
ymchwil yn canfod bod
y Cwricwlwm i Gymru a’r cod ADY yn hyrwyddo ffocws ar degwch a chynwysoldeb i
bob dysgwr.
cyfnod gweithredu’r
diwygiadau ADY wedi'i ymestyn er mwyn sicrhau bod teuluoedd yn cael y cymorth
gorau posibl, a’r cyllid gweithredu wedi cynyddu er mwyn helpu i gynllunio ar
gyfer diwallu anghenion dysgwyr unigol.
Diwygio
anghenion dysgu ychwanegol - Estyn
Ymchwil
gydag ysgolion ar weithrediad cynnar y Cwricwlwm i Gymru: Adroddiad Cam 1
Os derbynnir gwelliant
1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 2 Sian Gwenllian (Arfon)
Mewnosoder ar ddiwedd
is-bwynt 1(b):
gyda phrinder penodol
o ddarpariaeth Gymraeg.
Gwelliant 3 Sian Gwenllian (Arfon)
Mewnosod fel is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 2:
cymryd
camau ar unwaith i leddfu pryderon gan ddarparwyr cyfrwng Cymraeg ynghylch
argaeledd adnoddau Cymraeg i gefnogi gwaith ADY, a sicrhau bod yr holl
adnoddau'n cael eu cyhoeddi'n ddwyieithog
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 17.28
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM8294 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) bod nifer y plant a phobl
ifanc sy'n derbyn cymorth anghenion dysgu ychwanegol (ADY) wedi gostwng ers
cyflwyno diwygiadau anghenion dysgu ychwanegol y llynedd;
b) bod oedi a heriau wrth
gyflwyno diwygiadau ADY yn achosi loteri cod post mewn mynediad at gymorth
ADY i ddysgwyr ledled Cymru; ac
c) bod ymchwil gan
Gymdeithas Genedlaethol Prifathrawon Cymru wedi canfod bod 94 y cant o
arweinwyr ysgolion yn dweud nad yw cyllid i ymdrin â phob agwedd ar
ddeddfwriaeth ADY newydd yn ddigonol.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i:
a) cynnal adolygiad brys o
weithredu diwygiadau ADY;
b) cymryd camau brys i sicrhau
bod plant ag ADY yn cael eu hadnabod a'u bod yn cael mynediad at gymorth
yn gynt; ac
c) darparu cymorth ariannol
ychwanegol yn uniongyrchol i ysgolion Cymru i sicrhau bod dysgwyr ag ADY yn
gallu cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt.
'Methiant
i Fuddsoddi: Cyflwr cyllido ysgolion Cymru yn 2021' - NAHT Cymru
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
15 |
0 |
34 |
49 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi bod
Estyn wedi canfod bod cynnydd cyson tuag at roi’r
diwygiadau ADY ar waith a bod y newidiadau yn cael eu croesawu'n gyffredinol.
ymchwil yn canfod bod y Cwricwlwm i Gymru a’r cod ADY yn
hyrwyddo ffocws ar degwch a chynwysoldeb i bob dysgwr.
cyfnod gweithredu’r diwygiadau ADY wedi'i ymestyn er mwyn
sicrhau bod teuluoedd yn cael y cymorth gorau posibl, a’r cyllid gweithredu
wedi cynyddu er mwyn helpu i gynllunio ar gyfer diwallu anghenion dysgwyr
unigol.
Diwygio
anghenion dysgu ychwanegol - Estyn
Ymchwil
gydag ysgolion ar weithrediad cynnar y Cwricwlwm i Gymru: Adroddiad Cam 1
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
26 |
0 |
23 |
49 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gan fod gwelliant 1 wedi ei dderbyn, cafodd gwelliant 2
ei ddad-ddethol.
Gwelliant 3 Sian Gwenllian (Arfon)
Mewnosod fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:
cymryd camau ar unwaith i leddfu pryderon gan ddarparwyr
cyfrwng Cymraeg ynghylch argaeledd adnoddau Cymraeg i gefnogi gwaith ADY, a
sicrhau bod yr holl adnoddau'n cael eu cyhoeddi'n ddwyieithog
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
49 |
0 |
0 |
49 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM8294 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod:
a) Estyn wedi canfod bod cynnydd cyson tuag at roi’r
diwygiadau ADY ar waith a bod y newidiadau yn cael eu croesawu'n gyffredinol.
b) ymchwil yn canfod bod y Cwricwlwm i Gymru a’r cod ADY
yn hyrwyddo ffocws ar degwch a chynwysoldeb i bob dysgwr.
c) cyfnod gweithredu’r diwygiadau ADY wedi'i ymestyn er
mwyn sicrhau bod teuluoedd yn cael y cymorth gorau posibl, a’r cyllid
gweithredu wedi cynyddu er mwyn helpu i gynllunio ar gyfer diwallu anghenion
dysgwyr unigol.
Diwygio
anghenion dysgu ychwanegol - Estyn
Ymchwil
gydag ysgolion ar weithrediad cynnar y Cwricwlwm i Gymru: Adroddiad Cam 1
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i:
a) cynnal adolygiad brys o
weithredu diwygiadau ADY;
b) cymryd camau brys i sicrhau
bod plant ag ADY yn cael eu hadnabod a'u bod yn cael mynediad at gymorth
yn gynt; ac
c) darparu cymorth ariannol
ychwanegol yn uniongyrchol i ysgolion Cymru i sicrhau bod dysgwyr ag ADY yn
gallu cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt.
'Methiant
i Fuddsoddi: Cyflwr cyllido ysgolion Cymru yn 2021' - NAHT Cymru
d) cymryd camau ar unwaith i leddfu pryderon gan
ddarparwyr cyfrwng Cymraeg ynghylch argaeledd adnoddau Cymraeg i gefnogi gwaith
ADY, a sicrhau bod yr holl adnoddau'n cael eu cyhoeddi'n ddwyieithog.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
49 |
0 |
0 |
49 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.