Cyfarfodydd

P-06-1348 Comisiynu gwasanaethau GIG addas yng Nghymru ar gyfer pobl ag EDS neu anhwylderau sbectrwm hypersymudedd

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 22/04/2024 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1348 Comisiynu gwasanaethau GIG addas yng Nghymru ar gyfer pobl â Syndrom Ehlers-Danlos (EDS) neu anhwylderau sbectrwm hypersymudedd.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd mai dyma’r bumed tro i’r ddeiseb hon gael ei hystyried. Gan fod y deisebwyr mewn cysylltiad â swyddogion y GIG – ac yn bwriadu cyfarfod â nhw – cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a dymuno’n dda i’r deisebwyr yn eu hymgyrch.

 

 


Cyfarfod: 29/01/2024 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1348 Comisiynu gwasanaethau GIG addas yng Nghymru ar gyfer pobl ag EDS neu anhwylderau sbectrwm hypersymudedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Mike Hedges AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Ef yw cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar glefydau prin.

 

Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae ganddo aelodau o'r teulu sydd â’r cyflwr.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd, er bod y deisebwyr yn croesawu’r cynnydd a’r cyfle i weithio gyda’r rhwydwaith strategol cenedlaethol ar gyfer cyflyrau cyhyrysgerbydol a’r rhwydwaith gweithredu clefydau prin, fod ganddynt rai cwestiynau pellach yr hoffent gael ateb iddynt. Yng ngoleuni hyn cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am atebion i'r cwestiynau a godwyd gan y deisebwyr.

 


Cyfarfod: 11/12/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 5)

5 P-06-1348 Comisiynu gwasanaethau GIG addas yng Nghymru ar gyfer pobl ag EDS neu anhwylderau sbectrwm hypersymudedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog i rannu cwestiynau pellach y deisebydd ac i ofyn am ymateb.

 


Cyfarfod: 25/09/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-06-1348 Comisiynu gwasanaethau GIG addas yng Nghymru ar gyfer pobl â Syndrom Ehlers-Danlos (EDS) neu anhwylderau sbectrwm hypersymudedd.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae ganddo aelodau o'r teulu sy'n dioddef o'r cyflwr.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu eto at y Gweinidog i dynnu sylw at y pryderon a godwyd bod rhiwmatolegwyr yn gwrthod gweld cleifion EDS neu anhwylderau sbectrwm hypersymudedd, gan bwysleisio'r angen i fynd i'r afael â hyn gyda Byrddau Iechyd Lleol.

 


Cyfarfod: 03/07/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1348 Comisiynu gwasanaethau GIG addas yng Nghymru ar gyfer pobl â Syndrom Ehlers-Danlos (EDS) neu anhwylderau sbectrwm hypersymudedd.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae ganddo aelodau o'r teulu sy'n dioddef o'r cyflwr.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i rannu pryderon a phrofiadau cleifion a gofyn iddi ateb y cwestiynau a godwyd gan y deisebydd.