Cyfarfodydd

P-06-1346 Darparu trafnidiaeth gyhoeddus am ddim a hygyrch i'r rhai o dan 18 oed yng Nghymru er mwyn lleihau allyriadau carbon a hybu twf

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 04/11/2024 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1346 Darparu trafnidiaeth gyhoeddus am ddim a hygyrch i'r rhai o dan 18 oed yng Nghymru er mwyn lleihau allyriadau carbon a hybu twf

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru fod gwaith yn mynd rhagddo, ac y byddai Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) yn mynd drwy'r Senedd. Cytunodd y Cadeirydd i dynnu sylw at y ddeiseb hon a deisebau perthnasol eraill yn y ddadl sydd i ddod ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Gan fod gwaith sylweddol wedi’i wneud ar y mater, cytunodd yr Aelodau nad oedd llawer mwy y gallent ei wneud, a chau’r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 09/10/2024 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 5)

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau - Rhyddid i ffynnu: Trafnidiaeth gyhoeddus am ddim a hygyrch i bobl ifanc

NDM8683 Carolyn Thomas (Gogledd Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau, ‘Rhyddid i ffynnu: Trafnidiaeth gyhoeddus am ddim a hygyrch i bobl ifanc’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Mai 2024.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Hydref 2024.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.52

NDM8683 Carolyn Thomas (Gogledd Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau, ‘Rhyddid i ffynnu: Trafnidiaeth gyhoeddus am ddim a hygyrch i bobl ifanc’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Mai 2024.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Hydref 2024.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


Cyfarfod: 30/09/2024 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-06-1346 Darparu trafnidiaeth gyhoeddus am ddim a hygyrch i'r rhai o dan 18 oed yng Nghymru er mwyn lleihau allyriadau carbon a hybu twf

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad.

 


Cyfarfod: 27/11/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-06-1346 Darparu trafnidiaeth gyhoeddus am ddim a hygyrch i'r rhai o dan 18 oed yng Nghymru er mwyn lleihau allyriadau carbon a hybu twf

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ffion Fairclough ASIC - Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru dros Bontypridd, Kasia Tomsa ASIC - Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru dros Flaenau Gwent, Elin Hargrave - Swyddog Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc y Senedd a Bethan Roberts - Swyddog Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc y Senedd.

 


Cyfarfod: 11/09/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)

2 P-06-1346 Darparu trafnidiaeth gyhoeddus am ddim a hygyrch i'r rhai o dan 18 oed yng Nghymru er mwyn lleihau allyriadau carbon a hybu twf

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i'w chadw ar agor nes bod Senedd Ieuenctid Cymru yn rhannu ei chanfyddiadau ar yr arolwg y mae’n yn ei gynnal ar hyn o bryd ar drafnidiaeth gyhoeddus, a ddisgwylir yn ddiweddarach yn nhymor yr hydref.