Cyfarfodydd

P-06-1342 Ariannu mwy o leoedd mewn ysgolion arbenigol a staff i blant ag anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 14/10/2024 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1342 Ariannu mwy o leoedd mewn ysgolion arbenigol a staff i blant ag anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â phedair deiseb arall yn ymwneud â diwygio ADY, a chymorth a chyllid ar gyfer darpariaeth ADY. Nododd yr Aelodau fod y Gweinidog eisoes yn gweithio gydag ymgyrchwyr i fynd i’r afael â phryderon, a’r gwaith parhaus yn y maes hwn gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, y disgwylir iddo adrodd eto erbyn diwedd y Senedd. At hynny, mae yna ddadleuon ar ddod yn y Senedd, a fydd yn mynd i’r afael â’r mater. Cytunwyd, felly, i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.

 

 


Cyfarfod: 14/09/2023 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc, ac Addysg (Eitem 3)

3 P-06-1342 Ariannu mwy o leoedd mewn ysgolion arbenigol a staff i blant ag anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 03/07/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1342 Ariannu mwy o leoedd mewn ysgolion arbenigol a staff i blant ag anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i:

  • ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i godi ymwybyddiaeth o'r ddeiseb yng ngoleuni eu hymchwiliad presennol;
  • aros am yr adroddiad yn sgil adolygiad thematig Estyn ym mis Medi; a
  •  rhoi cyfle pellach i'r deisebydd wneud sylwadau ar yr ohebiaeth a ddaeth i law gan Lywodraeth Cymru.