Cyfarfodydd

P-06-1341 Canllawiau hygyrch ar gyfer rhieni ac ysgolion er mwyn helpu'r broses o ddatblygu cynlluniau i gefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 11/12/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 5)

5 P-06-1341 Canllawiau hygyrch ar gyfer rhieni ac ysgolion er mwyn helpu’r broses o ddatblygu cynlluniau i gefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i aros am ganlyniad ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar fynediad cyfartal at addysg a gofal plant i blant a phobl ifanc anabl, ac aros am ymateb Llywodraeth Cymru i'r ymchwiliad, cyn ystyried a yw'r materion a godwyd yn y ddeiseb wedi cael sylw.

 


Cyfarfod: 29/11/2023 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (Eitem 8)

8 P-06-1341 Canllawiau hygyrch ar gyfer rhieni ac ysgolion er mwyn helpu'r broses o ddatblygu cynlluniau i gefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 25/09/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1341 Canllawiau hygyrch ar gyfer rhieni ac ysgolion er mwyn helpu'r broses o ddatblygu cynlluniau i gefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd bod y

Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wrthi’n cynnal ymchwiliad manwl i fynediad cyfartal at addysg a gofal plant. 

 

Yn sgil hyn, cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i ofyn a fyddent yn ystyried cael tystiolaeth gan y deisebydd fel rhan o’u hymchwiliad manwl.