Cyfarfodydd

Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2023-24

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 13/09/2023 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 2)

2 PTN 9 - Craffu ar Gyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2023-24: Ymateb Llywodraeth Cymru – 11 Awst 2023

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 13/09/2023 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 2)

2 PTN 4 - Llythyr gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Gorwariant cyllideb ysgolion - 11 Gorffennaf 2023

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 04/07/2023 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 9)

Dadl: Cyllideb Atodol Gyntaf 2023-2024

NDM8298 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023-24 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ddydd Mawrth, 13 Mehefin 2023.

Troednodyn:

Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:

(i)   y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;

(ii)  yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;

(iii)  cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;

(iv)  cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig;

(v)  cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c); a

(vi)  manylion am unrhyw newidiadau i’r wybodaeth a ddarparwyd yn unol â Rheolau Sefydlog 20.7 – 20.7B ar gyfer y gyllideb ddrafft, fel y nodwyd yn y protocol y cytunwyd arno o dan Reol Sefydlog 20.1A.

Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:

- nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.

Dogfennau ategol

Adroddiad y Pwyllgor Cyllid

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.15

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM8298 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023-24 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ddydd Mawrth, 13 Mehefin 2023.

Troednodyn:

Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:

(i)   y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;

(ii)  yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;

(iii)  cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;

(iv)  cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig;

(v)  cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c); a

(vi)  manylion am unrhyw newidiadau i’r wybodaeth a ddarparwyd yn unol â Rheolau Sefydlog 20.7 – 20.7B ar gyfer y gyllideb ddrafft, fel y nodwyd yn y protocol y cytunwyd arno o dan Reol Sefydlog 20.1A.

Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:

- nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

36

0

15

51

Derbyniwyd y cynnig.


Cyfarfod: 28/06/2023 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 6)

6 Cyllideb Atodol gyntaf Llywodraeth Cymru 2023-24: Trafod yr adroddiad drafft

Dogfen ategol:

FIN(6)-11-23 P1 - Adroddiad drafft (Wedi'i gynnwys yn y pecyn atodol)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad a chytunodd i’w gymeradwyo yn amodol ar fân newidiadau.

 


Cyfarfod: 21/06/2023 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 5)

Cyllideb Atodol gyntaf Llywodraeth Cymru 2023-24: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law

 


Cyfarfod: 21/06/2023 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 3)

3 Cyllideb Atodol gyntaf Llywodraeth Cymru 2023-24: Sesiwn dystiolaeth

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr, y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth

Sharon Bounds, Dirprwy Gyfarwyddwr, Rheolaeth Ariannol

 

Dogfennau ategol:

Cyllideb Atodol gyntaf Llywodraeth Cymru 2024-25

Papur briffio gan Ymchwil y Senedd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol; Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyllideb a Busnes y Llywodraeth a Sharon Bounds, Dirprwy Gyfarwyddwr, Rheolaeth Ariannol ar Gyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24.

 

3.2 Cytunodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i ofyn i’r Gweinidog Addysg ddarparu nodyn ar:

 

·         orwariant ar gyllideb ysgolion ac a ellir cario unrhyw ddiffyg ymlaen i'r flwyddyn ariannol nesaf.

 


Cyfarfod: 24/05/2023 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 3)

3 Cyllideb Atodol Gyntaf 2023-24: Cyrff a Ariennir yn Uniongyrchol

Dogfennau ategol:

FIN(6)-09-23 P2 - Papur blaen

FIN(6)-09-23 P3 - Amcangyfrif Atodol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2023-24

FIN(6)-09-23 P4 – Amcangyfrif Atodol Comisiwn y Senedd ar gyfer 2023-24

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor yr amcangyfrifon atodol gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru; a Chomisiwn y Senedd.