Cyfarfodydd

NDM8272 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Deintyddiaeth y GIG

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 24/05/2023 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 7)

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Deintyddiaeth y GIG

NDM8272 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod ymchwiliad gan Gymdeithas Ddeintyddol Prydain wedi canfod nad yw 93 y cant o feddygfeydd deintyddol yng Nghymru yn derbyn cleifion newydd GIG Cymru sy'n oedolion.

2. Yn cydnabod bod arolwg Cymdeithas Ddeintyddol Prydain o 250 o ddeintyddion yng Nghymru wedi canfod bod dros draean o ddeintyddion yn bwriadu lleihau eu contractau GIG yng Nghymru.

3. Yn mynegi pryder bod llawer o drigolion ledled Cymru yn aros dros ddwy flynedd i gofrestru gyda deintydd GIG yng Nghymru.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gweithio gyda Chymdeithas Ddeintyddol Prydain i sicrhau bod contractau deintyddol GIG Cymru yn caniatáu i bractisau deintyddol gynyddu nifer eu cleifion; a

b) recriwtio mwy o ddeintyddion ar frys drwy wneud deintyddiaeth GIG Cymru yn yrfa ddeniadol, drwy ad-dalu ffioedd dysgu i'r rhai sy'n gweithio mewn practisau deintyddol GIG Cymru am bum mlynedd.

Gwybodaeth ategol

Ymchwil Cymdeithas Ddeintyddol Prydain i bractisau deintyddol sy’n derbyn cleifion newydd y GIG sy’n oedolion (Saesneg yn unig)

Arolwg Cymdeithas Ddeintyddol Prydain o 250 o ddeintyddion  o Gymru (Saesneg yn unig)

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:  Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod adfer gwasanaethau deintyddol ar ôl pandemig y coronafeirws yn her hirdymor ar draws y Deyrnas Unedig.

2. Yn nodi bod cael gafael ar wasanaethau deintyddol yn parhau i fod yn heriol i rai pobl yng Nghymru.

3. Yn nodi bod mwyafrif llethol y practisau deintyddol â chontractau’r GIG yn cymryd cleifion GIG newydd y llynedd ac y byddant yn parhau i wneud hynny eleni.

4. Yn nodi bod 174,000 o bobl nad oeddent wedi cael gofal deintyddol y GIG yn hanesyddol wedi cael apwyntiad ac wedi cael triniaeth y llynedd.

5. Yn nodi bod lleiafrif o gontractau deintyddol wedi’u terfynu neu wedi’u lleihau o ran eu gwerth, a bod yr arian a ddychwelwyd yn cael ei gadw gan y bwrdd iechyd i ailgomisiynu gwasanaethau yn eu lle.

6. Yn croesawu y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i:

a) gweithio gyda Chymdeithas Ddeintyddol Prydain i ddatblygu a negodi contract deintyddol newydd sy'n gwneud deintyddiaeth y GIG yn ddewis deniadol; a

b) gweithio gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru ac israddedigion deintyddiaeth i ddeall beth fyddai'n eu cymell i weithio yng Nghymru ar ôl graddio.

Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Gwelliant 2 Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu fel is-bwyntiau newydd ar ddiwedd pwynt 4:

adolygu amodau cytundebol ar gyfer deintyddion a gweithwyr gofal deintyddol proffesiynol i'w gwneud yn fwy cynaliadwy a deniadol yn y tymor hir;

meithrin gallu hyfforddi deintyddol, gan gynnwys drwy archwilio'r posibilrwydd o sefydlu ysgol ddeintyddol newydd yn y gogledd;

datblygu strategaeth cadw'r gweithlu.

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.39

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM8272 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod ymchwiliad gan Gymdeithas Ddeintyddol Prydain wedi canfod nad yw 93 y cant o feddygfeydd deintyddol yng Nghymru yn derbyn cleifion newydd GIG Cymru sy'n oedolion.

2. Yn cydnabod bod arolwg Cymdeithas Ddeintyddol Prydain o 250 o ddeintyddion yng Nghymru wedi canfod bod dros draean o ddeintyddion yn bwriadu lleihau eu contractau GIG yng Nghymru.

3. Yn mynegi pryder bod llawer o drigolion ledled Cymru yn aros dros ddwy flynedd i gofrestru gyda deintydd GIG yng Nghymru.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gweithio gyda Chymdeithas Ddeintyddol Prydain i sicrhau bod contractau deintyddol GIG Cymru yn caniatáu i bractisau deintyddol gynyddu nifer eu cleifion; a

b) recriwtio mwy o ddeintyddion ar frys drwy wneud deintyddiaeth GIG Cymru yn yrfa ddeniadol, drwy ad-dalu ffioedd dysgu i'r rhai sy'n gweithio mewn practisau deintyddol GIG Cymru am bum mlynedd.

Gwybodaeth ategol

Ymchwil Cymdeithas Ddeintyddol Prydain i bractisau deintyddol sy’n derbyn cleifion newydd y GIG sy’n oedolion (Saesneg yn unig)

Arolwg Cymdeithas Ddeintyddol Prydain o 250 o ddeintyddion o Gymru (Saesneg yn unig)

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

0

35

50

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:  Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod adfer gwasanaethau deintyddol ar ôl pandemig y coronafeirws yn her hirdymor ar draws y Deyrnas Unedig.

2. Yn nodi bod cael gafael ar wasanaethau deintyddol yn parhau i fod yn heriol i rai pobl yng Nghymru.

3. Yn nodi bod mwyafrif llethol y practisau deintyddol â chontractau’r GIG yn cymryd cleifion GIG newydd y llynedd ac y byddant yn parhau i wneud hynny eleni.

4. Yn nodi bod 174,000 o bobl nad oeddent wedi cael gofal deintyddol y GIG yn hanesyddol wedi cael apwyntiad ac wedi cael triniaeth y llynedd.

5. Yn nodi bod lleiafrif o gontractau deintyddol wedi’u terfynu neu wedi’u lleihau o ran eu gwerth, a bod yr arian a ddychwelwyd yn cael ei gadw gan y bwrdd iechyd i ailgomisiynu gwasanaethau yn eu lle.

6. Yn croesawu y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i:

a) gweithio gyda Chymdeithas Ddeintyddol Prydain i ddatblygu a negodi contract deintyddol newydd sy'n gwneud deintyddiaeth y GIG yn ddewis deniadol; a

b) gweithio gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru ac israddedigion deintyddiaeth i ddeall beth fyddai'n eu cymell i weithio yng Nghymru ar ôl graddio.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

26

50

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu fel is-bwyntiau newydd ar ddiwedd pwynt 4:

adolygu amodau cytundebol ar gyfer deintyddion a gweithwyr gofal deintyddol proffesiynol i'w gwneud yn fwy cynaliadwy a deniadol yn y tymor hir;

meithrin gallu hyfforddi deintyddol, gan gynnwys drwy archwilio'r posibilrwydd o sefydlu ysgol ddeintyddol newydd yn y gogledd;

datblygu strategaeth cadw'r gweithlu.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

26

50

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd gwelliant 2.

Gan fod y Senedd wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliannau i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.