Cyfarfodydd
NDM8252 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Anymataliaeth
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 10/05/2023 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 5)
- Gweddarllediad ar gyfer 10/05/2023 - Y Cyfarfod Llawn
- Trawsgrifiad ar gyfer 10/05/2023 - Y Cyfarfod Llawn
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Anymataliaeth
NDM8252 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) bod anymataliaeth
yn parhau i fod yn bwnc tabŵ i fenywod a dynion er ei fod yn fater
iechyd cyhoeddus sylweddol;
b) bod dros 90 y
cant o famau tro cyntaf yn profi trawma perineol yn ystod genedigaeth sy'n
gallu arwain at broblemau anymataliaeth;
c) nad yw 75 y cant o
fenywod yn gofyn am gymorth meddygol ar gyfer eu hanymataliaeth er ei bod yn
effeithio ar ansawdd eu bywyd waeth pa mor ddifrifol ydyw;
d) bod dynion yn
dioddef o anymataliaeth hefyd, yn arbennig yn ddiweddarach mewn bywyd ond
mae'n broblem gudd i raddau helaeth.
2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth ar gyfer mynd i'r afael ag achosion a
chanlyniadau anymataliaeth ac i godi ymwybyddiaeth o'r mater ymhlith y cyhoedd.
Cyd-gyflwynwyr
Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin
Cymru)
Altaf Hussain (Gorllewin De Cymru)
Sioned Williams (Gorllewin De Cymru)
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 15.19
NDM8252 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
Cynnig
bod y Senedd:
1.
Yn nodi:
a)
bod anymataliaeth yn parhau i fod yn bwnc tabŵ i fenywod a dynion er ei
fod yn fater iechyd cyhoeddus sylweddol;
b) bod
dros 90 y cant o famau tro cyntaf yn profi trawma perineol yn ystod genedigaeth
sy'n gallu arwain at broblemau anymataliaeth;
c)
nad yw 75 y cant o fenywod yn gofyn am gymorth meddygol ar gyfer eu hanymataliaeth
er ei bod yn effeithio ar ansawdd eu bywyd waeth pa mor ddifrifol ydyw;
d)
bod dynion yn dioddef o anymataliaeth hefyd, yn arbennig yn
ddiweddarach mewn bywyd ond mae'n broblem gudd i raddau helaeth.
2.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth ar gyfer mynd i'r afael ag
achosion a chanlyniadau anymataliaeth ac i godi ymwybyddiaeth o'r mater ymhlith
y cyhoedd.
Cyd-gyflwynwyr
Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Altaf Hussain (Gorllewin De Cymru)
Sioned Williams (Gorllewin De Cymru)
Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.