Cyfarfodydd

Senedd Commission Budget 2024-25

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 20/01/2025 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)

Ail Gyllideb Atodol 2024-25

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 2
  • Cyfyngedig 3
  • Cyfyngedig 4

Cofnodion:

Cymeradwyodd y Senedd Gyllideb y Comisiwn ar gyfer 2024-25, yn dilyn gwaith craffu gan y Pwyllgor Cyllid ym mis Tachwedd 2023. Cafodd Cyllideb Atodol gyntaf y Comisiwn ar gyfer 2024-25 ei gosod ym mis Hydref 2024 ac fe’i cynhwyswyd yng nghynnig Cyllideb Atodol Llywodraeth Cymru yn yr un mis yn dilyn gwaith craffu gan y Pwyllgor Cyllid. 

Ystyriodd y Comisiynwyr y gofyniad am ail Gyllideb Atodol, gan leihau’r gyllideb gyffredinol £2.300 miliwn a’r gofyniad arian parod net £0.900 miliwn. Roedd hyn yn adlewyrchu ymrwymiad y Comisiwn i ddychwelyd cyllid o ddwy gyllideb wedi'u neilltuo lle mae tanwariant wedi digwydd yn ystod y flwyddyn:

·     o'r Penderfyniad ar Gyflogau a Lwfansau Aelodau (lleihau llinell waelod y gyllideb gyfan ond dim effaith ar y gyllideb weithredol); 

·     o'r gyllideb wedi'i neilltuo ar gyfer y rhaglen Ffyrdd o Weithio (lleihau llinell waelod y gyllideb gyfan, dim effaith ar y gyllideb weithredol);

a mân addasiadau yn ystod y flwyddyn i'r gyllideb a osodwyd o:

·     danwariant ar y gyllideb Gwariant a Reolir yn Flynyddol ar gyfer pensiynau Aelodau (lleihau llinell waelod y gyllideb gyfan, dim effaith ar y gyllideb weithredol).

Cymeradwyodd y Comisiynwyr y Gyllideb Atodol i’w chynnwys yng nghynnig cyllideb Chwefror 2025 Llywodraeth Cymru. Gwnaethant hefyd gymeradwyo’r llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid i gynghori ar y bwriad i osod Ail Gyllideb Atodol.

Disgwylir i'r Pwyllgor Cyllid ystyried y Memorandwm Esboniadol yn ddiweddarach ym mis Ionawr, ac ar ôl hynny byddai'n cael ei osod a bydd ffigurau diwygiedig cyllideb y Comisiwn yn cael eu cynnwys yng nghyllideb atodol Llywodraeth Cymru.


Cyfarfod: 23/09/2024 - Comisiwn y Senedd (Eitem 7)

Llythyr at y Pwyllgor Cyllid

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 7

Cofnodion:

Cytunodd y Comisiynwyr ar lythyr i roi rhagor o wybodaeth i'r Pwyllgor Cyllid mewn perthynas ag argymhellion y Pwyllgor a nodir yn ei adroddiad Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Senedd 2024-25, gan roi’r wybodaeth ddiweddaraf am arolygon Llesiant Staff yn arbennig.

Bydd y llythyr yn cael ei gyhoeddi gyda phapurau cyfarfod y Pwyllgor Cyllid.


Cyfarfod: 15/07/2024 - Comisiwn y Senedd (Eitem 10)

Llythyr y Pwyllgor Cyllid – diweddariad ar Brotocol y Gyllideb

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 10

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr lythyr oddi wrth y Pwyllgor Cyllid at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa'r Cabinet ar newidiadau arfaethedig i Brotocol Proses y Gyllideb a Gweithdrefnau Cyllidebol cysylltiedig.


Cyfarfod: 17/06/2024 - Comisiwn y Senedd (Eitem 10)

Llythyr gan y Pwyllgor Cyllid, 23 Mai 2024 - Craffu ar Gyllideb Atodol 2024-25

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 13

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr lythyr y Pwyllgor Cyllid a oedd yn gofyn am ragor o wybodaeth am sut y mae'r Comisiwn yn bwriadu ymgysylltu ag Aelodau ynghylch darparu gwasanaethau yn y dyfodol, a hynny er mwyn sicrhau eu bod yn adlewyrchu eu blaenoriaethau a bod modd eu rheoli o fewn yr adnoddau presennol. Cytunodd y Comisiynwyr i gytuno ar ymateb y tu allan i'r cyfarfod. 


Cyfarfod: 17/06/2024 - Comisiwn y Senedd (Eitem 8)

Trafodaethau ar gyflogau (diweddariad llafar)

Cofnodion:

Cafodd y Comisiynwyr ddiweddariad ar statws presennol y trafodaethau cyflog ac, yn benodol, y ffaith bod ymateb i’r cynnig diweddaraf yn ddisgwyliedig, ac y byddai opsiynau ar gyfer y Comisiwn yn cael eu darparu cyn gynted â phosibl.


Cyfarfod: 29/04/2024 - Comisiwn y Senedd (Eitem 8)

Llythyr at y Pwyllgor Cyllid - Ymateb i ymgynghoriad ar Brotocol Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 18

Cofnodion:

Ym mis Mawrth, cafodd y Comisiynwyr lythyr gan y Pwyllgor Cyllid yn gofyn am eu barn ar newidiadau arfaethedig i Brotocol Proses y Gyllideb i helpu i lywio trafodaethau parhaus rhwng y Pwyllgor a'r Gweinidog. Cytunodd y Comisiynwyr ar ymateb i’r llythyr hwnnw.


Cyfarfod: 29/04/2024 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)

Cyllideb Atodol Gyntaf 2024/25

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 21
  • Cyfyngedig 22
  • Cyfyngedig 23

Cofnodion:

Cafodd y Comisiwn gynigion ar gyfer Cais y Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer 2024-25.

Hefyd, cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am Drafodaethau Cytundeb Cyflog Staff ar gyfer 2025-2028.

Gan adlewyrchu trafodaethau yn gynharach yn y cyfarfod, cytunodd y Comisiynwyr i gyflwyno cyllideb atodol a fyddai’n cynyddu cyfanswm y gyllideb gan £635,000 i £72.830 miliwn, ac yn cynyddu’r gofyniad Arian Parod o Gronfa Gyfunol Cymru gan £635,000 i £67.999 miliwn. Byddai’r cynnydd yng nghyfanswm y gyllideb yn cael ei rannu ar draws y llinellau cyllidebol unigol y mae’r Comisiwn yn gyfrifol amdanynt.

Cymeradwyodd y Comisiynwyr y Memorandwm Esboniadol i’w osod, gan gytuno i rannu gwybodaeth â’u grwpiau am y dyfarniad cyflog ar gyfer staff ar raddfeydd cyflog isaf y Comisiwn.


Cyfarfod: 29/01/2024 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)

Arbedion yn y Gyllideb ar gyfer 2024/25

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 26

Cofnodion:

Trafododd y Comisiwn gynigion ar gyfer cyrraedd y targed arbedion o £315,000 ar gyfer cyllideb 2024-25, y mae'n rhaid ei nodi cyn dechrau blwyddyn ariannol 2024-25.

Trafododd y Comisiynwyr effeithiau cymharol y cynigion sy’n ymwneud ag elfennau o gostau nad ydynt yn gysylltiedig â staff, yn ogystal â rheoli swyddi gwag i gyflawni'r arbedion.

Cymeradwyodd y Comisiynwyr y cynigion ar gyfer sicrhau’r arbedion targed, yn amodol ar wneud addasiad i gynnal lefel y cyllid ar gyfer cefnogi gwaith ymgysylltu rhyngwladol yr Aelodau, gan gynnwys ymgysylltu â’r UE.


Cyfarfod: 11/12/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)

Ymateb i'r Pwyllgor Cyllid ynghylch: Adolygiad o’r Gyllideb Atodol

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 29

Cofnodion:

Roedd y Pwyllgor Cyllid wedi ysgrifennu at y Comisiwn drwy ddiweddariad i’w Adolygiad o'r Datganiad o Egwyddorion, gan wahodd ystyriaeth bellach o faterion yn ymwneud â gweithdrefnau Cyllideb Atodol y Senedd.

Cytunodd y Comisiynwyr ar eu llythyr ymateb, sy’n rhoi sylwadau ar y prosesau ar gyfer cyllideb atodol a chyllideb flynyddol ac yn gwneud awgrymiadau ar sut y gellid mynd i'r afael â rhai o'r rhain, i'w hystyried gan y Pwyllgor.


Cyfarfod: 06/11/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 10)

Llythyrau at y Pwyllgor Cyllid

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 32
  • Cyfyngedig 33

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr y llythyrau at y Pwyllgor Cyllid ynghylch y taliad Costau Byw, a chyda gwybodaeth bellach yn dilyn y sesiwn graffu, fel y’i dosbarthwyd y tu allan i’r cyfarfod (ar 3 Hydref 2023 a 10 Hydref 2023 yn y drefn honno).


Cyfarfod: 06/11/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)

Cyllideb Comisiwn y Senedd 2024-25

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 36
  • Cyfyngedig 37
  • Cyfyngedig 38

Cofnodion:

Cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith craffu ar Gyllideb ddrafft Comisiwn y Senedd 2024-25 gan y Pwyllgor Cyllid ar 5 Hydref. Cytunodd y Comisiynwyr ar eu hymateb i'r argymhellion yn adroddiad y Pwyllgor Cyllid a gwnaethant gymeradwyo'r Gyllideb Derfynol ar gyfer 2024-25 a osodwyd ar 10 Tachwedd.

Roedd naratif y Gyllideb wedi'i ddiwygio o ran costau pensiynau'r Comisiwn ar dudalen 9 yn unol â chais y Pwyllgor Cyllid, a nododd y Comisiynwyr yr argymhelliad i fynd i'r afael â chostau ychwanegol Pensiwn y Comisiwn drwy gais am Gyllideb Atodol.

Byddai dogfen y Gyllideb Derfynol ar gyfer 2024-25 yn cael ei gosod ar 8 Tachwedd 2023 gyda’r Cynnig Cyllidebol i gael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ar 15 Tachwedd 2023.


Cyfarfod: 25/09/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)

Cyllideb Ddrafft 2024-25

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 41
  • Cyfyngedig 42
  • Cyfyngedig 43

Cofnodion:

Cyflwynwyd Cyllideb Ddrafft 2024-25 i’r Comisiynwyr i’w chytuno. Amlygwyd y newidiadau i’r gyllideb ers cyfarfod y Comisiwn ar 6 Medi. Roedd y rhain yn cynnwys y gofyniad y gyllideb weithredol a chyfanswm gofyniad y gyllideb ar gyfer 2024-25, darpariaethau wedi'u neilltuo ar gyfer Diwygio'r Senedd a hefyd

Costau rhaglen Ffyrdd o Weithio, mân newid i’r gyllideb staffio sylfaenol, cyfuno taliad i’w wneud i staff cymorth a chynllun Pensiwn yr Aelodau.

Rhoddwyd diweddariad pellach gan gynnwys mewn perthynas â meysydd lle roedd yn hysbys y gellid disgwyl newid, ond lle na fyddai manylion ar gael o fewn terfynau amser y gofynion ar y Comisiwn i osod y gyllideb. Roedd y rhain yn cynnwys gwaith i'w wneud gan y Bwrdd Taliadau Annibynnol ar daliadau i Staff Cymorth yr Aelodau/Aelodau o’r Senedd, a chyflogau staff cymorth. Cydnabuwyd y byddai'n rhaid mynd i'r afael â'r rhain, o bosibl drwy brosesau'r gyllideb atodol, unwaith y byddai'r manylion ar gael pe bai'r rhagdybiaethau cyllidebol yn annigonol.

Trafododd y Comisiynwyr arwyddocâd gorfod cydbwyso'r broses o ddarparu rhaglenni newid sylweddol ochr yn ochr â'r her i ddarparu'n briodol ar gyfer busnes fel arfer, a gofynnwyd am ragor o wybodaeth yn y cyfarfod nesaf i lywio ystyriaethau blaenoriaethu a phenderfyniadau polisi o ran cynhyrchu incwm.

At hynny, gofynnodd y Comisiynwyr am nodiadau byr i nodi dadansoddiad o Floc Cymru ac i ddarparu gwybodaeth am reoli contractau a oedd wedi arwain at arbedion costau, a drafodwyd mewn perthynas â llungopïwyr.

Gwnaeth y Comisiynwyr nodi Datganiad o Egwyddorion y Pwyllgor Cyllid (dim newid ers 2019) a’r llythyr a anfonwyd gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid.

Cymeradwyodd y Comisiynwyr Gyllideb Ddrafft 2024-25 i’w gosod, yn ddarostyngedig i’r addasiadau a drafodwyd.


Cyfarfod: 06/09/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)

Cyllideb Ddrafft y Comisiwn ar gyfer 2024-25

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 46

Cofnodion:

Trafododd y Comisiynwyr waith a wnaed i baratoi ar gyfer cyllideb ddrafft derfynol y Comisiwn ar gyfer 2024-25, a fydd yn cael ei chyflwyno ar gyfer penderfyniad terfynol yn y cyfarfod ar 25 Medi.

 

Gwnaeth y Comisiynwyr drafod a rhannu barn mewn perthynas â’r canlynol:

         costau staffio ac effaith yr argyfwng costau byw;

         gofyniad y gyllideb weithredol a chyfanswm gofyniad y gyllideb ar gyfer 2024-25, gostyngiadau costau o ran pwysau’r gyllideb, ac arbedion y mae angen eu nodi drwy'r broses cynllunio gwasanaeth a'r adolygiad corfforaethol;

         y Fframwaith Adnoddau Tymor Canolig ac amcangyfrifon cyllideb y dyfodol;

         clustnodi costau sy'n ymwneud â rhaglenni sy'n ymateb i waith y gofynnwyd amdano gan y Senedd a'r Pwyllgor Cyllid h.y. Diwygio'r Senedd, Ffyrdd o Weithio, ac unrhyw Daliad Costau Byw yn y dyfodol;

         y Penderfyniad a chefnogaeth i’r Bwrdd Taliadau.

 

Dywedodd y Clerc mai argymhelliad y Bwrdd Gweithredol oedd peidio ag ymgorffori cyllid ar gyfer canlyniad cytundeb cyflog yn y dyfodol, yn seiliedig ar safbwynt cyfredol PCS yn y trafodaethau cyflog, yn y gyllideb graidd. Argymhellodd y Bwrdd Gweithredol y dylid cyflymu trafodaethau ynghylch y cytundeb cyflog nesaf. Cadarnhaodd y Comisiynwyr y seiliau ar gyfer datblygu cyllideb ddrafft derfynol y Comisiwn ar gyfer 2024-25, gan gynnwys paratoi ar sail y cytundeb cyflog presennol. Bydd y gyllideb ddrafft derfynol yn cael ei hadolygu yn y cyfarfod nesaf a'i gosod wedi hynny yn unol â gofynion y Rheolau Sefydlog. Cytunwyd y byddai'n ddefnyddiol ysgrifennu at y Pwyllgor Cyllid i ddarparu gwybodaeth ychwanegol ar gyfer y gwaith craffu ar y gyllideb.

 


Cyfarfod: 22/05/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)

Cyllideb Ddrafft 2024-25

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 49

Cofnodion:

Ystyriodd y Comisiynwyr nifer o faterion a oedd yn debygol o effeithio ar gyllid y Comisiwn yn ystod 2024-25 a rhoi cyfarwyddyd y dylid datblygu cynigion yn y meysydd hyn fel rhan o gyllideb ddrafft 2024-25. Roedd y rhain yn cynnwys:

·       Diwygio'r Senedd

·       Rhaglen Ffyrdd o Weithio (rhagamcanion manwl) 

·       Effeithiau Strategaeth Gyflogau'r Comisiwn ar y gyllideb.

·       Ystyriaethau nad ydynt yn ymwneud â thâl.

Trafododd y Comisiynwyr yr heriau sy’n gysylltiedig â gweithredu mewn amgylchedd lle mae arian yn dynn, gyda dewisiadau anodd yn gorfod cael eu gwneud, a chydbwyso'r angen i ddarparu’r gwasanaethau presennol, bodloni rhwymedigaethau cytundebol, ac ymateb i ofynion newydd. Cyfeiriwyd at sefyllfa gadarnhaol barhaus y Comisiwn o wahardd diswyddiadau gorfodol.

Cytunwyd i ystyried y gyllideb ddrafft ochr yn ochr â'r Fframwaith Adnoddau Tymor Canolig drafft, gwaith a fyddai'n dwyn ynghyd Gynlluniau Tymor Canolig Ariannol a'r Gweithlu, fel rhan o gyflawni'r amserlenni sy'n ofynnol gan y Rheolau Sefydlog.

Nododd y Comisiynwyr hefyd y byddai unrhyw effaith gyllidebol o ran amcangyfrif costau ynni yn y dyfodol; adolygu cyllidebau ystadau, TGCh a chronfeydd prosiect; unrhyw newidiadau i gostau cyfraniadau pensiwn y cyflogwr; a'r adolygiad blynyddol o Gostau Penderfyniad yn cael eu nodi yng Nghyllideb Ddrafft 2024-25.