Cyfarfodydd

P-06-1336 Gwersi Cymraeg am ddim i bawb sydd isio dysgu'r iaith yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 11/09/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1336 Gwersi Cymraeg am ddim i bawb sydd isio dysgu'r iaith yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd yr ymateb blaenorol gan y Gweinidog a oedd yn glir nad oes cynlluniau i ddarparu darpariaeth Dysgu Cymraeg am ddim i bawb, a'r ymateb manwl diweddar gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg yn amlinellu'r ystod o opsiynau, cefnogaeth benodol am ddim a'r ystod o gymorth ariannol sydd ar gael.  Yng ngoleuni hyn, cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd. 

 

 


Cyfarfod: 05/06/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)

2 P-06-1336 Gwersi Cymraeg am ddim i bawb sydd isio dysgu'r iaith yng Nghymru.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Brif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i ofyn am eglurder ynghylch sut y gall unigolion gael cymorth ariannol a’r wybodaeth sydd ar gael i ddarpar ddysgwyr.