Cyfarfodydd

P-06-1331 Ystyriwch roi gofynion cyfreithiol ar waith i bob busnes preifat i sicrhau eu bod yn hygyrch i bawb

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 05/06/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)

2 P-06-1331 Ystyriwch roi gofynion cyfreithiol ar waith i bob busnes preifat i sicrhau eu bod yn hygyrch i bawb.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a diolchodd i ddisgyblion Ysgol Gynradd Libanus am gymryd rhan yn y broses ddeisebu. Gwnaeth yr Aelodau gydnabod bod y Llywodraeth wedi sefydlu Tasglu Hawliau Anabledd, y disgwylir iddo gyhoeddi ei gynllun gweithredu erbyn mis Mawrth 2024, gan nodi bod gwaith yn mynd rhagddo i ymdrin â phryderon.

 

Cytunodd yr Aelodau i rannu barn y disgyblion â’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a gofyn i’r safbwyntiau hyn gael eu rhannu â’r Tasglu hefyd. Wrth wneud hynny, cytunodd yr Aelodau nad oes llawer mwy y gall y Pwyllgor ei wneud wrth aros am adroddiad y Tasglu y flwyddyn nesaf, felly bydd y ddeiseb yn cael ei chau. Llongyfarchwyd disgyblion Ysgol Gynradd Libanus am dynnu sylw at y mater pwysig hwn.