Cyfarfodydd

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Mudo Anghyfreithlon

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 20/06/2023 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 10)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Mudo Anghyfreithlon

NDM8296 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Mudo Anghyfreithlon i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 31 Mawrth 2023 a 26 Mai 2023, yn y drefn honno, yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Gellir gweld copi o’r Bil ar wefan Senedd y DU:

Bil Mudo Anghyfreithlon  - Senedd y DU (Saesneg yn unig)

Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol
Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.54

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM8296 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Mudo Anghyfreithlon i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 31 Mawrth 2023 a 26 Mai 2023, yn y drefn honno, yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Gellir gweld copi o’r Bil ar wefan Senedd y DU:

Bil Mudo Anghyfreithlon  - Senedd y DU (Saesneg yn unig)

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

0

38

53

Gwrthodwyd y cynnig.

 


Cyfarfod: 19/06/2023 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol (Eitem 4)

4 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Mudo Anghyfreithlon: trafod yr adroddiad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau’r adroddiad, a chytuno arno, yn amodol ar fân newidiadau.

 


Cyfarfod: 14/06/2023 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (Eitem 4)

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Mudo Anghyfreithlon - trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Yn amodol ar newidiadau i’w cytuno’n electronig y tu allan i’r cyfarfod Pwyllgor, cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft. Bydd yr adroddiad yn cael ei osod ar 19 Mehefin.

 


Cyfarfod: 12/06/2023 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 4)

4 Tystiolaeth ysgrifenedig a gyflwynwyd gan Sefydliad Bevan i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Bil Mudo Anghyfreithlon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y dystiolaeth ysgrifenedig.


Cyfarfod: 12/06/2023 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 9)

9 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Mudo Anghyfreithlon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd i drafod rhai mân newidiadau y tu allan i’r cyfarfod.


Cyfarfod: 12/06/2023 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol (Eitem 4)

4 Gohebiaeth rhwng y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip, y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol a’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch Bil Mudo Anghyfreithlon Llywodraeth y DU

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 12/06/2023 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol (Eitem 7)

7 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Mudo Anghyfreithlon: trafod yr ymatebion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ymatebion a chytunodd i drafod adroddiad drafft yn ystod cyfarfod yn y dyfodol.

 


Cyfarfod: 07/06/2023 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (Eitem 5)

5 Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Mudo Anghyfreithlon

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 07/06/2023 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (Eitem 5)

5 Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Mudo Anghyfreithlon

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 05/06/2023 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 6)

6 Gohebiaeth gan y Groes Goch Brydeinig: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Mudo Anghyfreithlon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Groes Goch Brydeinig.


Cyfarfod: 05/06/2023 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 8)

8 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Mudo Anghyfreithlon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Mudo Anghyfreithlon, a chytunodd i drafod ei adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.


Cyfarfod: 25/05/2023 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (Eitem 3)

3 Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Mewnfudo Anghyfreithlon

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 22/05/2023 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 6)

6 Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai at y Llywydd: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Mudo Anghyfreithlon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai at y Pwyllgor Busnes.


Cyfarfod: 11/05/2023 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 3)

3 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Mudo Anghyfreithlon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Mudo Anghyfreithlon.

 


Cyfarfod: 09/05/2023 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 10)

10 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Mewnfudo Anghyfreithlon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Mewnfudo Anghyfreithlon a chytunodd i drafod ei adroddiad drafft yn ystod cyfarfod yn y dyfodol.