Cyfarfodydd
NDM8229 Dadl Plaid Cymru - Cynllyn brys ar gyfer y sector bysiau
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 22/03/2023 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 7)
- Gweddarllediad ar gyfer 22/03/2023 - Y Cyfarfod Llawn
- Trawsgrifiad ar gyfer 22/03/2023 - Y Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru - Cynllun brys ar gyfer y sector bysiau
NDM8229 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod tystiolaeth
ysgrifenedig y Llywodraeth i bwyllgorau craffu'r Senedd ar y dyraniadau o fewn
pob prif grŵp gwariant wedi dweud y byddai'r £28 miliwn a roddwyd i’r
cynllun brys ar gyfer y sector bysiau yn 2022-23 yn cael cyllid cyfatebol yn
2023-24, ond bod gweithredwyr bysiau wedyn wedi cael gwybod nad oedd sicrwydd o
unrhyw gyllid o 1 Ebrill 2023 ar gyfer y cynllun brys ar gyfer y sector bysiau.
2. Yn nodi nad yw'r
estyniad 3 mis i'r cynllun brys ar gyfer y sector bysiau yn cynnig llawer o
sicrwydd i weithredwyr bysiau i gynnal gwasanaethau a llwybrau allweddol yn eu
hardal yn y tymor hir.
3. Yn mynegi pryder y
byddai peidio ag ymestyn cyllid y cynllun brys ar gyfer y sector bysiau yn
arwain at ganslo gwasanaethau ar raddfa eang, a fydd yn gadael cymunedau ledled
Cymru - cymunedau gwledig yn bennaf - wedi’u hynysu.
4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ymestyn cyllid y cynllun brys ar gyfer y sector bysiau am o
leiaf 18 mis i ddarparu sicrwydd ariannol mwy hirdymor i weithredwyr bysiau
ledled Cymru.
5. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gyflwyno opsiynau cyllid diogel mwy hirdymor er mwyn cynnal
gwasanaethau bysiau, yn hytrach na chynlluniau cyllido brys.
Cyflwynwyd y gwelliant
a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod bod
Llywodraeth Cymru wedi darparu gwerth dros £150m o gyllid ychwanegol i’r
diwydiant bysiau gydol y pandemig a’i bod wedi cefnogi’r diwydiant i adfer ar
ei ôl.
2. Yn nodi nad yw
nifer y teithwyr ar fysiau wedi dychwelyd i’r lefelau cyn y pandemig a bod
patrymau o ran defnydd wedi newid.
3. Yn nodi bod yr
estyniad cychwynnol o 3 mis i’r cynllun brys ar gyfer y sector bysiau yn cynnig
sicrwydd yn y tymor byr i weithredwyr bysiau er mwyn cefnogi datblygiad
rhwydwaith bysiau sylfaenol.
4. Yn cefnogi cynlluniau
mwy hirdymor Llywodraeth Cymru i ddiwygio’r diwydiant bysiau drwy reoleiddio.
5.
Yn cefnogi bwriad Llywodraeth Cymru i roi’r gorau i ddyrannu cyllid brys cyn
gynted â phosibl gan yn hytrach gyflwyno pecyn cyllid sy’n cefnogi’r
trosglwyddiad i fasnachfreinio.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 17.27
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM8229 Sian Gwenllian
(Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod
tystiolaeth ysgrifenedig y Llywodraeth i bwyllgorau craffu'r Senedd ar y
dyraniadau o fewn pob prif grŵp gwariant wedi dweud y byddai'r £28 miliwn
a roddwyd i’r cynllun brys ar gyfer y sector bysiau yn 2022-23 yn cael cyllid
cyfatebol yn 2023-24, ond bod gweithredwyr bysiau wedyn wedi cael gwybod nad
oedd sicrwydd o unrhyw gyllid o 1 Ebrill 2023 ar gyfer y cynllun brys ar gyfer
y sector bysiau.
2. Yn nodi nad yw'r
estyniad 3 mis i'r cynllun brys ar gyfer y sector bysiau yn cynnig llawer o sicrwydd
i weithredwyr bysiau i gynnal gwasanaethau a llwybrau allweddol yn eu hardal yn
y tymor hir.
3. Yn mynegi pryder y
byddai peidio ag ymestyn cyllid y cynllun brys ar gyfer y sector bysiau yn
arwain at ganslo gwasanaethau ar raddfa eang, a fydd yn gadael cymunedau ledled
Cymru - cymunedau gwledig yn bennaf - wedi’u hynysu.
4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ymestyn cyllid y cynllun brys ar gyfer y sector bysiau am o
leiaf 18 mis i ddarparu sicrwydd ariannol mwy hirdymor i weithredwyr bysiau
ledled Cymru.
5. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gyflwyno opsiynau cyllid diogel mwy hirdymor er mwyn cynnal
gwasanaethau bysiau, yn hytrach na chynlluniau cyllido brys.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
28 |
55 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley
Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod bod
Llywodraeth Cymru wedi darparu gwerth dros £150m o gyllid ychwanegol i’r
diwydiant bysiau gydol y pandemig a’i bod wedi cefnogi’r diwydiant i adfer ar
ei ôl.
2. Yn nodi nad yw
nifer y teithwyr ar fysiau wedi dychwelyd i’r lefelau cyn y pandemig a bod
patrymau o ran defnydd wedi newid.
3. Yn nodi bod yr
estyniad cychwynnol o 3 mis i’r cynllun brys ar gyfer y sector bysiau yn cynnig
sicrwydd yn y tymor byr i weithredwyr bysiau er mwyn cefnogi datblygiad
rhwydwaith bysiau sylfaenol.
4. Yn cefnogi
cynlluniau mwy hirdymor Llywodraeth Cymru i ddiwygio’r diwydiant bysiau drwy
reoleiddio.
5. Yn cefnogi bwriad
Llywodraeth Cymru i roi’r gorau i ddyrannu cyllid brys cyn gynted â phosibl gan
yn hytrach gyflwyno pecyn cyllid sy’n cefnogi’r trosglwyddiad i fasnachfreinio.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
27 |
55 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM8229 Sian Gwenllian
(Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod bod
Llywodraeth Cymru wedi darparu gwerth dros £150m o gyllid ychwanegol i’r
diwydiant bysiau gydol y pandemig a’i bod wedi cefnogi’r diwydiant i adfer ar
ei ôl.
2. Yn nodi nad yw
nifer y teithwyr ar fysiau wedi dychwelyd i’r lefelau cyn y pandemig a bod
patrymau o ran defnydd wedi newid.
3. Yn nodi bod yr
estyniad cychwynnol o 3 mis i’r cynllun brys ar gyfer y sector bysiau yn cynnig
sicrwydd yn y tymor byr i weithredwyr bysiau er mwyn cefnogi datblygiad
rhwydwaith bysiau sylfaenol.
4. Yn cefnogi
cynlluniau mwy hirdymor Llywodraeth Cymru i ddiwygio’r diwydiant bysiau drwy
reoleiddio.
5. Yn cefnogi bwriad
Llywodraeth Cymru i roi’r gorau i ddyrannu cyllid brys cyn gynted â phosibl gan
yn hytrach gyflwyno pecyn cyllid sy’n cefnogi’r trosglwyddiad i fasnachfreinio.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
27 |
55 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.