Cyfarfodydd
NDM8219 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Mesuryddion rhagdalu a gwasanaethau cyngor ynni
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 22/03/2023 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 5)
- Gweddarllediad ar gyfer 22/03/2023 - Y Cyfarfod Llawn
- Trawsgrifiad ar gyfer 22/03/2023 - Y Cyfarfod Llawn
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Mesuryddion rhagdalu a gwasanaethau cyngor ynni
NDM8219 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu:
a) ei fod yn sgandal
genedlaethol bod 600,000 o bobl wedi cael eu gorfodi i ddefnyddio mesuryddion
rhagdalu yn 2022 oherwydd na allent fforddio eu biliau ynni;
b) bod rheoleiddiwr
ynni Ofgem wedi methu â diogelu aelwydydd bregus drwy ganiatáu i gyflenwyr ynni
osgoi gwiriadau priodol;
c) y dylai'r rhai sy'n
cael eu gorfodi i ddefnyddio mesuryddion rhagdalu gael eu digolledu'n briodol
gan gyflenwyr ynni a'u newid yn ôl yn rhad ac am ddim.
2. Yn nodi:
a) y cafodd
cyflenwad ynni 3.2 miliwn o bobl ei dorri y llynedd oherwydd eu bod wedi
rhedeg allan o gredyd ar eu mesuryddion rhagdalu;
b) y gallai biliau
ynni cyfartalog cartrefi godi hyd yn oed ymhellach, gan roi baich ychwanegol ar
aelwydydd sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd oherwydd yr argyfwng costau
byw.
3. Yn cydnabod cynllun
peilot ynni yn y cartref 2021-22 Llywodraeth Cymru, a oedd yn rhoi
cyngor rhagweithiol a chefnogaeth allgymorth i bobl a oedd, neu a oedd mewn
perygl o fod, mewn tlodi tanwydd.
4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gyflwyno gwasanaeth cyngor ynni yn y cartref ledled Cymru i
sicrhau bod pob cartref yn gallu cael y cymorth a'r cyngor sydd eu hangen
arnynt.
Cefnogwyr
Carolyn Thomas (Gogledd Cymru)
Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru)
Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)
Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin
Cymru)
Luke Fletcher (Gorllewin De Cymru)
Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)
Peredur Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru)
Sarah Murphy (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 15.19
NDM8219 Jack Sargeant
(Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu:
a) ei fod yn
sgandal genedlaethol bod 600,000 o bobl wedi cael eu gorfodi i ddefnyddio
mesuryddion rhagdalu yn 2022 oherwydd na allent fforddio eu biliau ynni;
b) bod rheoleiddiwr
ynni Ofgem wedi methu â diogelu aelwydydd bregus drwy ganiatáu i gyflenwyr ynni
osgoi gwiriadau priodol;
c) y dylai'r rhai sy'n
cael eu gorfodi i ddefnyddio mesuryddion rhagdalu gael eu digolledu'n briodol
gan gyflenwyr ynni a'u newid yn ôl yn rhad ac am ddim.
2. Yn nodi:
a) y cafodd
cyflenwad ynni 3.2 miliwn o bobl ei dorri y llynedd oherwydd eu bod wedi
rhedeg allan o gredyd ar eu mesuryddion rhagdalu;
b) y gallai biliau
ynni cyfartalog cartrefi godi hyd yn oed ymhellach, gan roi baich ychwanegol ar
aelwydydd sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd oherwydd yr argyfwng costau
byw.
3. Yn cydnabod cynllun
peilot ynni yn y cartref 2021-22 Llywodraeth Cymru, a oedd yn rhoi
cyngor rhagweithiol a chefnogaeth allgymorth i bobl a oedd, neu a oedd mewn
perygl o fod, mewn tlodi tanwydd.
4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gyflwyno gwasanaeth cyngor ynni yn y cartref ledled Cymru i
sicrhau bod pob cartref yn gallu cael y cymorth a'r cyngor sydd eu hangen
arnynt.
Cefnogwyr
Carolyn Thomas
(Gogledd Cymru)
Delyth Jewell
(Dwyrain De Cymru)
Heledd Fychan
(Canol De Cymru)
Jane Dodds
(Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Jayne Bryant
(Gorllewin Casnewydd)
Joyce Watson
(Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Luke Fletcher
(Gorllewin De Cymru)
Mike Hedges
(Dwyrain Abertawe)
Peredur Owen
Griffiths (Dwyrain De Cymru)
Sarah Murphy
(Pen-y-bont ar Ogwr)
Sioned Williams (Gorllewin De Cymru)
Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.