Cyfarfodydd

NDMXXXX Dadl: Adroddiad Blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru 2021 – 2022

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 21/03/2023 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 9)

Dadl: Adroddiad Blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru 2021 – 2022

NDM8224 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd yn nodi adroddiad blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru ar weithrediad Tribiwnlysoedd Cymru yn ystod y cyfnod rhwng mis Ebrill 2021 a mis Rhagfyr 2022.

Pedwerydd Adroddiad Blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru Ebrill 2021 – Rhagfyr 2022

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 – Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cefnogi galwadau am lawer mwy o annibyniaeth i Uned Tribiwnlysoedd Cymru, a chreu adran anweinidogol i weinyddu Tribiwnlysoedd Cymru.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.46

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cefnogi galwadau am lawer mwy o annibyniaeth i Uned Tribiwnlysoedd Cymru, a chreu adran anweinidogol i weinyddu Tribiwnlysoedd Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

0

38

52

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

NDM8224 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd yn nodi adroddiad blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru ar weithrediad Tribiwnlysoedd Cymru yn ystod y cyfnod rhwng mis Ebrill 2021 a mis Rhagfyr 2022.

Pedwerydd Adroddiad Blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru Ebrill 2021 – Rhagfyr 2022

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd y cynnig.