Cyfarfodydd

P-06-1330 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrthod eu cynigion ar gyfer ailbrisio'r dreth gyngor

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 24/06/2024 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1330 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrthod eu cynigion ar gyfer ailbrisio’r dreth gyngor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nodwyd bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi arweiniad clir ynghylch ei chamau nesaf, a’r amserlen ohiriedig. O ystyried y ddau ymgynghoriad gweddol gynhwysfawr a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru, a’r ffaith y bydd etholiad i’r Senedd cyn y bydd unrhyw newid radical yn mynd yn fyw, nid yw'n glir beth arall y gallai'r Pwyllgor ei wneud i fynd â'r ddeiseb ymhellach. Yng ngoleuni hyn, cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 


Cyfarfod: 15/05/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-06-1330 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrthod eu cynigion ar gyfer ailbrisio'r dreth gyngor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd y bydd ymgynghoriad pellach a phroses ddeddfwriaethol lawn cyn i unrhyw gynnig gael ei gyflwyno. Penderfynodd y Pwyllgor aros am i ganlyniadau’r ymgynghoriad cyhoeddus gael eu cyhoeddi cyn cau’r ddeiseb.