Cyfarfodydd

P-06-1327 Cyfleusterau Canolfannau Hamdden am ddim i blant

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 11/09/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1327 Cyfleusterau Canolfannau Hamdden am ddim i blant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd ymateb Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru sy'n tynnu sylw at yr heriau sy’n gysylltiedig â diffinio beth fyddai am ddim, a sut y byddai'r gost o'i chyflawni yn cael ei thalu, yn y tymor byr a'r tymor hir. Yng ngoleuni hyn, caeodd y Pwyllgor y ddeiseb a diolchodd i blant Ysgol Mynydd Bychan am ymgysylltu â'r Pwyllgor Deisebau. 

 


Cyfarfod: 15/05/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-06-1327 Cyfleusterau Canolfannau Hamdden am ddim i blant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ofyn am yr amcangyfrif gorau o gost darparu gwasanaethau canolfannau hamdden yn rhad ac am ddim i bobl ifanc. Penderfynodd y Pwyllgor drafod effaith y ddeiseb ar draws llawer o feysydd polisi megis iechyd a gweithgareddau i bobl ifanc.