Cyfarfodydd

P-06-1325 Gostwng y cyfyngiad cyflymder ar yr A5 drwy Glasfryn

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 15/05/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 5)

5 P-06-1325 Gostwng y cyfyngiad cyflymder ar yr A5 drwy Glasfryn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ymrwymiad y Gweinidog i adolygu’r terfyn cyflymder ar ôl i ganllawiau newydd gael eu cyhoeddi, a chytunwyd nad oedd fawr ddim arall y gallai’r Pwyllgor ei wneud. Caewyd y ddeiseb a diolchwyd i’r deisebydd.

 


Cyfarfod: 27/03/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1325 Gostwng y cyfyngiad cyflymder ar yr A5 drwy Glasfryn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd i:

  • ofyn iddo ddweud rhagor am sylwadau’r deisebydd a’r pryder mai hwn yw’r unig bentref ar yr A5 sydd â chyfyngiad cyflymder o 60mya; a
  • gofyn iddo sicrhau y bydd y darn hwn o’r ffordd yn cael blaenoriaeth ar gyfer cynnal adolygiad arall pan gaiff y canllawiau newydd eu cyhoeddi.