Cyfarfodydd

P-06-1324 Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi siomi pobl Gogledd Cymru a dylid ei rannu'n unedau llai

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 15/05/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-06-1324 Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi siomi pobl Gogledd Cymru a dylid ei rannu'n unedau llai

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nodwyd nad oedd y Gweinidog o blaid gwahanu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Cydnabu’r Pwyllgor y pryder ynghylch canlyniadau cleifion a nododd i’r mater hwn cael ei drafod yn helaeth yn y Cyfarfod Llawn ac yn y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus a’r Pwyllgor Iechyd. Yn sgil hyn, penderfynwyd diolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb.