Cyfarfodydd

P-06-1326 Dylai'r Senedd graffu ar y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 01/05/2024 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 5)

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau - Gaeaf cynhesach: P-06-1326 Dylai’r Senedd graffu ar y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru

NDM8559 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau, ‘Gaeaf cynhesach: P-06-1326 Dylai’r Senedd graffu ar y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Tachwedd 2023.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ebrill 2024.

Dogfennau ategol

Ymateb Ofgem i adroddiad y Pwyllgor Deisebau (Saesneg yn unig)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.23

NDM8559 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau, ‘Gaeaf cynhesach: P-06-1326 Dylai’r Senedd graffu ar y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Tachwedd 2023.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ebrill 2024.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 18/03/2024 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-06-1326 Dylai'r Senedd graffu ar y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd yr ymatebion a ddaeth i law gan Lywodraeth Cymru ac Ofgem, ac y bydd y Senedd yn trafod adroddiad y Pwyllgor ar 1 Mai 2024.


Cyfarfod: 13/11/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 5)

5 Papur i'w nodi P-06-1326 – Dylai'r Senedd graffu ar y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nodwyd y papur.

 


Cyfarfod: 03/07/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 Papur i'w nodi- P-06-1326 Dylai’r Senedd graffu ar y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafodd y papurau eu nodi.

 


Cyfarfod: 05/06/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 6)

6 Trafod allbynnau'r ymchwiliad i fesuryddion rhagdalu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ddrafft a chytunodd i anfon copi o’r  ohebiaeth hon at Scottish Power, Centrica ac Energy UK cyn gynted â phosibl.

 


Cyfarfod: 15/05/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)

Sesiwn dystiolaeth 1 - P-06-1326 Dylai’r Senedd graffu ar y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru

Neil Kenward, Ofgem

Cofnodion:

Holodd y Pwyllgor Neil Kenward o Ofgem am y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru.

 


Cyfarfod: 15/05/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 6)

6 Papur i'w nodi - P-06-1326 Dylai'r Senedd graffu ar y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 15/05/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 Sesiwn dystiolaeth 2 - P-06-1326 Dylai’r Senedd graffu ar y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru

Chris O’Shea, Centrica

 

Dhara Vyas, Energy UK

 

Andrew Ward, Scottish Power Retail

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Holodd y Pwyllgor gynrychiolwyr o gwmnïau ynni am y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru.

 


Cyfarfod: 15/05/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 8)

Trafod tystiolaeth - P-06-1326 Dylai’r Senedd graffu ar y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd a’r camau nesaf.

 


Cyfarfod: 27/03/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 5)

Sesiwn dystiolaeth 2- P-06-1326 Dylai’r Senedd graffu ar y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Dean Kirby, newyddiadurwr gyda phapur newydd yr ‘i’.

 


Cyfarfod: 27/03/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 7)

Trafod tystiolaeth - P-06-1326 Dylai’r Senedd graffu ar y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a chytunwyd y byddai'n gwahodd Ofgem, Nwy Prydain, Scottish Power ac Energy UK i roi tystiolaeth yn ei gyfarfod nesaf ar 24 Ebrill.

 


Cyfarfod: 27/03/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)

2 Sesiwn dystiolaeth 1- P-06-1326 Dylai’r Senedd graffu ar y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru

Bethan Sayed, Climate Cymru

 

Ben Saltmarsh, National Energy Action Cymru

 

Luke Young, Gyngor ar Bopeth Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Bethan Sayed, y deisebydd a chydlynydd ymgyrch Cadwch yn Gynnes y Gaeaf Hwn, Climate Cymru, Ben Saltmarsh, Pennaeth Gweithredu Ynni Cenedlaethol Cymru a Luke Young, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cyngor ar Bopeth Cymru.

 


Cyfarfod: 13/03/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 6)

6 P-06-1326 Dylai’r Senedd graffu ar y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i wahodd rhanddeiliaid i roi tystiolaeth ar y mater dros y misoedd nesaf.


Cyfarfod: 13/03/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)

2 P-06-1326 Dylai’r Senedd graffu ar y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb, a chytunwyd i gynnal ymchwiliad i’r mater.

 

Cytunodd yr Aelodau i drafod yr ymchwiliad yn fanylach yn ystod y sesiwn breifat.