Cyfarfodydd

Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Gwarchodaeth Rhag Aflonyddu Ar Sail Rhyw Yn Gyhoeddus

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 19/06/2023 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 5)

5 Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip: Y Bil Gwarchodaeth rhag Aflonyddu ar sail Rhyw yn Gyhoeddus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Gweinidog.


Cyfarfod: 13/06/2023 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 7)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gwarchodaeth rhag Aflonyddu ar sail Rhyw yn Gyhoeddus

NDM8290 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Gwarchodaeth rhag Aflonyddu ar sail Rhyw yn Gyhoeddus, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.

Troednodyn:

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Ebrill 2023 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Gellir cael copi o’r Bil ar wefan Senedd y DU (Saesneg yn unig):

https://bills.parliament.uk/bills/3196

Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.24

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM8290 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Gwarchodaeth rhag Aflonyddu ar sail Rhyw yn Gyhoeddus, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.

Troednodyn:

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Ebrill 2023 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Gellir cael copi o’r Bil ar wefan Senedd y DU (Saesneg yn unig):

https://bills.parliament.uk/bills/3196

Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

41

0

11

52

Derbyniwyd y cynnig.


Cyfarfod: 12/06/2023 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol (Eitem 4)

4 Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Gweinidogion Cymru a’r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran Gartref: Y Bil Gwarchodaeth rhag Aflonyddu ar Sail Rhyw yn Gyhoeddus

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 05/06/2023 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 9)

9 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gwarchodaeth rhag Aflonyddu ar sail Rhyw yn Gyhoeddus: Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft a chytunodd arno.


Cyfarfod: 22/05/2023 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol (Eitem 8)

8 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gwarchodaeth rhag Aflonyddu ar sail Rhyw yn Gyhoeddus: ystyried yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd yr Aelodau ar yr adroddiad drafft.

 


Cyfarfod: 15/05/2023 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 5)

5 Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gwarchodaeth rhag Aflonyddu ar sail Rhyw yn Gyhoeddus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gyda’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip.


Cyfarfod: 15/05/2023 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol (Eitem 6)

6 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Gwarchodaeth rhag Aflonyddu ar sail Rhyw yn Gyhoeddus – ystyried y dull gweithredu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunwyd i drafod adroddiad drafft yn ystod y cyfarfod nesaf.

 


Cyfarfod: 15/05/2023 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol (Eitem 2)

2 Gohebiaeth rhwng y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Gwarchodaeth rhag Aflonyddu ar sail Rhyw yn Gyhoeddus

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 02/05/2023 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 10)

10 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Gwarchodaeth rhag Aflonyddu ar sail Rhyw yn Gyhoeddus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gwarchodaeth rhag Aflonyddu ar sail Rhyw yn Gyhoeddus a chytunodd i drafod ei adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.


Cyfarfod: 13/03/2023 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 6)

6 Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad at y Llywydd: Y Bil Gwarchodaeth rhag Aflonyddu ar sail Rhyw yn Gyhoeddus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad at y Llywydd.