Cyfarfodydd

NDM8131 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Data biometrig mewn ysgolion

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 08/03/2023 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 5)

Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Data biometrig mewn ysgolion

NDM8131 Sarah Murphy (Pen-y-Bont ar Ogwr)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod yr arfer cyffredinol o gasglu a defnyddio data biometrig mewn ysgolion ledled Cymru yn peryglu data personol a phreifatrwydd plant.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth a fyddai'n:

a) sicrhau bod Erthygl 16 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, sef hawl plentyn i breifatrwydd, yn cael ei gadarnhau o fewn Cymru; 

b) sicrhau bod ysgolion a lleoliadau gofal plant yn defnyddio technolegau nad ydynt yn fiometrig ar gyfer gwasanaethau, yn hytrach na defnyddio systemau biometrig a allai beryglu diogelwch data biometrig plant; 

c) sicrhau bod asesiadau risg priodol a phrosesau caffael cwmnïau technoleg mewn lleoliadau addysgol yn cael eu rhoi ar waith; 

d) cydnabod y niwed posibl o'r defnydd anrheoledig o ddata biometrig; 

e) cydnabod diffyg caniatâd pobl ifanc a phlant o fewn y defnydd cyfredol o ddata biometrig o fewn ysgolion. 

Cyd-gyflwynwyr

Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cefnogwyr

Carolyn Thomas (Gogledd Cymru)

Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.17

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM8131 Sarah Murphy (Pen-y-Bont ar Ogwr)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod yr arfer cyffredinol o gasglu a defnyddio data biometrig mewn ysgolion ledled Cymru yn peryglu data personol a phreifatrwydd plant.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth a fyddai'n:

a) sicrhau bod Erthygl 16 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, sef hawl plentyn i breifatrwydd, yn cael ei gadarnhau o fewn Cymru; 

b) sicrhau bod ysgolion a lleoliadau gofal plant yn defnyddio technolegau nad ydynt yn fiometrig ar gyfer gwasanaethau, yn hytrach na defnyddio systemau biometrig a allai beryglu diogelwch data biometrig plant; 

c) sicrhau bod asesiadau risg priodol a phrosesau caffael cwmnïau technoleg mewn lleoliadau addysgol yn cael eu rhoi ar waith; 

d) cydnabod y niwed posibl o'r defnydd anrheoledig o ddata biometrig; 

e) cydnabod diffyg caniatâd pobl ifanc a phlant o fewn y defnydd cyfredol o ddata biometrig o fewn ysgolion. 

Cyd-gyflwynwyr

Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cefnogwyr

Carolyn Thomas (Gogledd Cymru)

Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

14

1

53

Derbyniwyd y cynnig.