Cyfarfodydd
P-04-405 Llawysgrif ganoloesol o Gyfreithiau Hywel Dda
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 17/07/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 P-04-405 Llawysgrif ganoloesol o Gyfreithiau Hywel Dda
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 76 KB Gweld fel HTML (3/1) 6 KB
- Gohebiaeth o'r Gweinidog i'r Cadeirydd, Eitem 3 PDF 659 KB
Cofnodion:
Ystyriodd y
Pwyllgor ohebiaeth sy’n gysylltiedig â’r ddeiseb hon a chytunodd i:
Ysgrifennu at y
deisebydd yn ei longyfarch ar ei waith ar y mater hwn;
Cau’r ddeiseb gan
fod y llawysgrif wedi’i brynu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.
Cyfarfod: 02/07/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)
4 P-04-405 Llawysgrif ganoloesol o Gyfreithiau Hywel Dda
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf.
Nododd Bethan Jenkins ei bod wedi cefnogi pwnc y ddeiseb yn gyhoeddus.
Cytunodd y Pwyllgor i gymryd camau dilynol i lythyr y Cadeirydd at y Gweinidog am y pwnc.