Cyfarfodydd

Ymchwiliad i Gofrestru a Datgan Buddiannau

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 10/07/2023 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Eitem 2)

Ymchwiliad i Gofrestru a Datgan Buddiannau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Trafododd y Pwyllgor y papur a chytunwyd i ymgynghori â grwpiau ar y materion a drafodwyd yn gynnar yn nhymor yr hydref.

 

2.2. Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Weinidog.

 


Cyfarfod: 22/05/2023 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Eitem 3)

Ymchwiliad i Gofrestru a Datgan Buddiannau - ymatebion i'r ymgynghoriad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor yr ymatebion i'r ymgynghoriad a chytunwyd ar nifer o feysydd i roi sylw manylach iddynt mewn cyfarfod diweddarach.

 


Cyfarfod: 22/05/2023 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Eitem 2)

Cofrestr Buddiannau'r Aelodau - newid arfaethedig i MS Forms

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cytunodd y Pwyllgor i argymell mabwysiadu'r ffurflen newydd i'r Llywydd.

 

2.2. Cytunodd y Pwyllgor y dylai'r Swyddfa Gyflwyno gyflwyno'r ffurflen newydd i'r Aelodau ym mis Medi.

 

2.3 Cytunodd y Pwyllgor hefyd y dylai’r Swyddfa Gyflwyno ymchwilio i’r posibilrwydd o ddatblygu ffurflen electronig ar gyfer cofrestriadau cychwynnol ar ddechrau’r Seithfed Senedd.

 


Cyfarfod: 20/03/2023 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Eitem 4)

Ymchwiliad i Gofrestru a Datgan Buddiannau - sesiynau galw heibio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Comisiynydd Safonau ar y broses bresennol ar gyfer cofrestru a datgan buddiannau.

 

4.2 Cytunodd y Pwyllgor ar y fformat ar gyfer sesiynau galw heibio i’r Aelodau i gefnogi'r ymgynghoriad.