Cyfarfodydd

Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2022-23

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 10/01/2024 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 2)

2 PTN 1 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Adroddiad ar Alldro 2022-23 - 22 Rhagfyr 2023

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 21/06/2023 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 2)

2 Papur i’w nodi 2 – Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2022-23: Ymateb Llywodraeth Cymru – Ebrill 2023

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 26/04/2023 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 2)

2 PTN 4 - Llythyr gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Effaith chwyddiant ar y rhaglen addysg ac ysgolion - 20 Mawrth 2023

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 26/04/2023 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 2)

2 PTN 3 - Llythyr gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar y gymorth dyngarol i Wcráin - 16 Mawrth 2023

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 26/04/2023 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 2)

2 PTN 2 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Taliad o Gronfa Wrth Gefn y DU - 9 Mawrth 2023

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 26/04/2023 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 2)

2 PTN 5 - Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cyllid Ychwanegol ar gyfer y GIG - 24 Mawrth 2023

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 14/03/2023 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 9)

Dadl: Ail Gyllideb Atodol 2022-23

NDM8206 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Ail Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022-23 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ddydd Mawrth, 14 Chwefror 2023.

Troednodyn:

Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:

(i)     y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;

(ii)    yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;

(iii)   cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;

(iv)  cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig;

(v)   cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c); a

(vi)  manylion am unrhyw newidiadau i’r wybodaeth a ddarparwyd yn unol â Rheolau Sefydlog 20.7 – 20.7B ar gyfer y gyllideb ddrafft, fel y nodwyd yn y protocol y cytunwyd arno o dan Reol Sefydlog 20.1A.

Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:

- nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.

Dogfen Ategol
Adroddiad Pwyllgor y Llywydd: Amcangyfrif Atodol y Comisiwn Etholiadol ar gyfer 2022-23

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.27

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM8206 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Ail Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022-23 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ddydd Mawrth, 14 Chwefror 2023.

Troednodyn:

Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:

(i)     y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;

(ii)    yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;

(iii)   cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;

(iv)  cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig;

(v)   cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c); a

(vi)  manylion am unrhyw newidiadau i’r wybodaeth a ddarparwyd yn unol â Rheolau Sefydlog 20.7 – 20.7B ar gyfer y gyllideb ddrafft, fel y nodwyd yn y protocol y cytunwyd arno o dan Reol Sefydlog 20.1A.

Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:

- nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

24

0

51

Derbyniwyd y cynnig.


Cyfarfod: 08/03/2023 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 7)

7 Craffu ar Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23: Trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

FIN(6)-06-23 P2 - Adroddiad drafft (Wedi'i gynnwys yn y pecyn atodol)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad cyn cytuno arno, yn amodol ar fân newidiadau.

 


Cyfarfod: 01/03/2023 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 5)

Craffu ar Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd.


Cyfarfod: 01/03/2023 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 3)

3 Craffu ar Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr, y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth

Sharon Bounds, Dirprwy Gyfarwyddwr, Rheolaeth Ariannol

 

Dogfennau ategol:

Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2022-23

Papur briffio gan Ymchwil y Senedd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2022-23 gan Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol; Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllid a Busnes y Llywodraeth; a Sharon Bounds, Dirprwy Gyfarwyddwr, Rheolaethau Ariannol.


Cyfarfod: 31/01/2023 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 3)

3 Ceisiadau o ran Cyllideb Atodol 2022-23 gan Gyrff a Ariennir yn Uniongyrchol

Dogfennau ategol:

FIN(6)-03-23 P2 - Papur blaen

FIN(6)-03-23 P3 - Ail Gyllideb Atodol Comisiwn y Senedd ar gyfer 2022-23

FIN(6)-03-23 P4 - Ail Amcangyfrif Atodol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2022-23

FIN(6)-03-23 P5 - Ail Amcangyfrif Atodol Archwilio Cymru ar gyfer 2022-23

FIN(6)-03-23 P6 - Ymateb gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon yr Ombwdsmon 2021-22; ac Amcangyfrif 2023-24 - 19 Ionawr 2023

FIN(6)-03-23 P7 - Archwilio Cymru: Ymateb i waith craffu blynyddol y Pwyllgor Cyllid ar Swyddfa Archwilio Cymru – 19 Ionawr 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor y ceisiadau o ran y gyllideb atodol gan Gyrff a Ariennir yn Uniongyrchol ac fe’u derbyniwyd.

 

3.2 Trafododd y Pwyllgor gywiriad Archwilio Cymru i amcangyfrif 20233-24 ac fe’i derbyniwyd.