Cyfarfodydd

P-04-403 Achub Plas Cwrt yn Dre/ Hen Senedd-Dy Dolgellau

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 04/06/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 P-04-403 Achub Plas Cwrt yn Dre/ Hen Senedd-Dy Dolgellau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb, gan nad yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu prynu Plas Cwrt yn Dre.

 

Yn ogystal â chau'r ddeiseb, cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, gan gyfeirio at y materion a godwyd wrth ystyried y ddeiseb hon a deisebau tebyg sy'n ymwneud â threftadaeth a gofyn iddo ystyried y materion hyn wrth ystyried y Bil Treftadaeth (Cymru).

 


Cyfarfod: 19/03/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-403 Achub Plas Cwrt yn Dre/ Hen Senedd-dy Dolgellau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon i geisio ei farn am ohebiaeth y deisebwr.

 


Cyfarfod: 04/12/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-403 Achub Plas Cwrt yn Dre/ Hen Senedd-Dy Dolgellau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth mewn cysylltiad â’r ddeiseb a chytunodd i ofyn yn ffurfiol am farn y deisebydd arni.


Cyfarfod: 16/10/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-403 Achub Plas Cwrt yn Dre/ Hen Senedd-Dy Dolgellau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb hon a chytunodd i ofyn am ragor o fanylion gan y Gweinidog am y wybodaeth a gafwyd yn ystod yr ymarfer i ail-werthuso gradd yr adeilad ac am gynnydd y gweithdai y mae Llywodraeth Cymru yn eu cynnal ar y Bil Diogelu Treftadaeth sydd ar ddod.

 


Cyfarfod: 02/07/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-403 Achub Plas Cwrt yn Dre/ Hen Senedd-Dy Dolgellau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf, a chytunodd i:

Ysgrifennu at y Gweinidog am bwnc y ddeiseb;

Cyfeirio’r deisebydd at y Bil Treftadaeth y bydd y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth yn ei gyflwyno a’u hannog i gyfrannu at y broses honno.