Cyfarfodydd
NDM8205 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Hyfforddiant sefydlu ar gyfer plant â nam ar eu golwg
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 15/02/2023 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 7)
- Gweddarllediad ar gyfer 15/02/2023 - Y Cyfarfod Llawn
- Trawsgrifiad ar gyfer 15/02/2023 - Y Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Hyfforddiant sefydlu ar gyfer plant â nam ar eu golwg
NDM8205 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi ymchwil gan
Cŵn Tywys Cymru sy'n awgrymu y byddai 2,000 o blant â nam ar eu golwg yn
elwa o hyfforddiant sefydlu.
2. Yn nodi
ymhellach bod hyfforddiant sefydlu yn hanfodol ar gyfer datblygu sgiliau byw'n
annibynnol, symudedd personol a llywio ar gyfer plant â nam ar eu golwg.
3. Yn
siomedig nad yw nifer o awdurdodau lleol Cymru yn cynnig hyfforddiant
sefydlu, er gwaethaf eu dyletswydd i roi sylw dyledus i Erthygl 26 o Gonfensiwn
y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau.
4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i:
a) darparu cynllun
gweithlu ar frys ar wasanaethau sefydlu; a
b) sicrhau bod
awdurdodau lleol yn cyflogi o leiaf un arbenigwr sefydlu i bob 100 o blant
â nam ar eu golwg.
Erthygl 26 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau
Pobl ag Anableddau (Saesneg yn unig)
Cyflwynwyd y gwelliant
a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley
Griffiths (Wrecsam)
Dileu pwyntiau 3 a 4 a
rhoi yn eu lle:
3. Yn galw
ar holl awdurdodau lleol Cymru i gynnig hyfforddiant sefydlu, yn unol â’u
dyletswydd i roi sylw dyledus i Erthygl 26 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar
Hawliau Pobl ag Anableddau.
4.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i drafod â rhanddeiliaid perthnasol i helpu i
ddatblygu cynllun gwella ar gyfer gwasanaethau sefydlu i blant â nam ar eu
golwg, gan gynnwys ystyried eu hanghenion o ran hyfforddiant a sut i’w diwallu.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 17.10
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM8205 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi ymchwil gan Cŵn
Tywys Cymru sy'n awgrymu y byddai 2,000 o blant â nam ar eu golwg yn elwa o
hyfforddiant sefydlu.
2. Yn nodi ymhellach bod
hyfforddiant sefydlu yn hanfodol ar gyfer datblygu sgiliau byw'n annibynnol,
symudedd personol a llywio ar gyfer plant â nam ar eu golwg.
3. Yn siomedig nad
yw nifer o awdurdodau lleol Cymru yn cynnig hyfforddiant sefydlu, er
gwaethaf eu dyletswydd i roi sylw dyledus i Erthygl 26 o Gonfensiwn y
Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i:
a) darparu cynllun gweithlu ar
frys ar wasanaethau sefydlu; a
b) sicrhau bod awdurdodau lleol
yn cyflogi o leiaf un arbenigwr sefydlu i bob 100 o blant â nam ar eu
golwg.
Erthygl
26 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau (Saesneg yn unig)
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
26 |
51 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei
phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn cynnig wedi’i ddiwygio. Felly, gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley
Griffiths (Wrecsam)
Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi yn eu lle:
3. Yn galw ar holl awdurdodau lleol Cymru i
gynnig hyfforddiant sefydlu, yn unol â’u dyletswydd i roi sylw dyledus i
Erthygl 26 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i drafod â
rhanddeiliaid perthnasol i helpu i ddatblygu cynllun gwella ar gyfer
gwasanaethau sefydlu i blant â nam ar eu golwg, gan gynnwys ystyried eu
hanghenion o ran hyfforddiant a sut i’w diwallu.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
26 |
50 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei
phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y
gwelliant.
Gan fod y Senedd wedi gwrthod
y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliant i'r cynnig, gwrthodwyd y
cynnig.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.44,
canwyd y gloch am 17.48 a gohiriwyd y cyfarfod tan y cyfnod pleidleisio.