Cyfarfodydd
NDM8199 Dadl Plaid Cymru - Datganoli treth incwm
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 08/02/2023 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 7)
- Gweddarllediad ar gyfer 08/02/2023 - Y Cyfarfod Llawn
- Trawsgrifiad ar gyfer 08/02/2023 - Y Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru - Datganoli treth incwm
NDM8199 Sian
Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu fod cyfyngiadau
presennol pwerau amrywio trethi Llywodraeth Cymru yn rhwystr rhag llunio
polisïau effeithiol yng Nghymru, yn enwedig y gallu i ymateb i'r argyfwng
costau byw presennol, a'r argyfyngau sy'n wynebu ein gwasanaethau cyhoeddus.
2. Yn credu y dylai'r
Senedd feddu ar y cymhwysedd datganoledig i bennu ei bandiau treth incwm ei
hun, yn unol â'r pwerau sydd eisoes wedi'u datganoli i Senedd yr Alban o dan
Ddeddf yr Alban 2012.
3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gychwyn y broses a amlinellir yn Neddf Llywodraeth
Cymru 2006 i geisio pwerau a gedwir ar hyn o bryd i San Steffan er mwyn
galluogi'r Senedd i bennu'r holl gyfraddau a bandiau ar gyfer Treth Incwm
Cymru.
Cyflwynwyd y gwelliant
a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley
Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod y defnydd cyfrifol y mae Llywodraeth
Cymru yn ei wneud o’i phwerau amrywio trethi i helpu i lunio polisïau
effeithiol yng Nghymru yn ystod yr argyfwng costau byw presennol.
2. Yn cefnogi dull Llywodraeth Cymru o ymdrin
â datganoli trethi yn unol â'i hegwyddorion treth a'i huchelgeisiau ar gyfer
cryfhau datganoli o fewn y Deyrnas Unedig.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 17.33
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM8199 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu fod cyfyngiadau
presennol pwerau amrywio trethi Llywodraeth Cymru yn rhwystr rhag llunio
polisïau effeithiol yng Nghymru, yn enwedig y gallu i ymateb i'r argyfwng
costau byw presennol, a'r argyfyngau sy'n wynebu ein gwasanaethau cyhoeddus.
2. Yn credu y dylai'r Senedd
feddu ar y cymhwysedd datganoledig i bennu ei bandiau treth incwm ei hun, yn
unol â'r pwerau sydd eisoes wedi'u datganoli i Senedd yr Alban o dan Ddeddf yr
Alban 2012.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i gychwyn y broses a amlinellir yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 i geisio pwerau
a gedwir ar hyn o bryd i San Steffan er mwyn galluogi'r Senedd i bennu'r holl
gyfraddau a bandiau ar gyfer Treth Incwm Cymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
40 |
51 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod y defnydd cyfrifol
y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o’i phwerau amrywio trethi i helpu i lunio
polisïau effeithiol yng Nghymru yn ystod yr argyfwng costau byw presennol.
2. Yn cefnogi dull Llywodraeth
Cymru o ymdrin â datganoli trethi yn unol â'i hegwyddorion treth a'i
huchelgeisiau ar gyfer cryfhau datganoli o fewn y Deyrnas Unedig.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
25 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM8199 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod y defnydd cyfrifol
y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o’i phwerau amrywio trethi i helpu i lunio
polisïau effeithiol yng Nghymru yn ystod yr argyfwng costau byw presennol.
2. Yn cefnogi dull Llywodraeth
Cymru o ymdrin â datganoli trethi yn unol â'i hegwyddorion treth a'i
huchelgeisiau ar gyfer cryfhau datganoli o fewn y Deyrnas Unedig.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
25 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.