Cyfarfodydd

P-06-1323 Gofynnwn i Lywodraeth Cymru brynu Neuadd Dewi Sant fel adnodd cenedlaethol i Gymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 13/03/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1323 Gofynnwn i Lywodraeth Cymru brynu Neuadd Dewi Sant fel adnodd cenedlaethol i Gymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb, ac o ystyried y safbwynt clir a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru a phenderfyniad y cyngor yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus i fwrw ymlaen â'i bartneriaeth â Live Nation, cytunodd yr Aelodau i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.

 


Cyfarfod: 27/02/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-06-1323 Gofynnwn i Lywodraeth Cymru brynu Neuadd Dewi Sant fel adnodd cenedlaethol i Gymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i aros am gyhoeddi ymgynghoriad Cyngor Caerdydd ar ei gyllideb ar gyfer 2023/24.

 


Cyfarfod: 06/02/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)

2 P-06-1323 Gofynnwn i Lywodraeth Cymru brynu Neuadd Dewi Sant fel adnodd cenedlaethol i Gymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i aros am ymateb cychwynnol Llywodraeth Cymru i'r ddeiseb ac adroddiad ymgynghoriad cyhoeddus Cyngor Caerdydd.

 

Nododd y Cadeirydd hefyd ddeiseb debyg ar y mater a lansiwyd ar wefan Change.org ac a gasglodd 21,790 o lofnodion.