Cyfarfodydd

NDM8155 Debate on a Member's Legislative Proposal - Digital Carbon Footprint Reduction Bill

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 25/01/2023 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 6)

Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil ar leihau ôl-troed carbon digidol

NDM8155 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig am Fil ar leihau ôl-troed carbon digidol 

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:

a) ymateb i’r angen i fod yn fwy effeithlon yn ein defnydd o ddigidol yng Nghymru, fel rhan o’r ymdrech i gyrraedd net sero, yn benodol o ran defnydd ynni i redeg platfformau digidol;

b) cynnwys strategaeth i ymdrin â data sy’n cael eu creu, eu cadw a’u prosesu mewn ffordd fwy effeithlon o ran defnydd ynni;

c) gosod targedau ar gyfer sicrhau bod canolfannau data yn rhedeg yn y modd mwyaf effeithlon, yn cynnwys drwy ddefnyddio ffynonellau ynni adnewyddadwy, a thrwy hynny gefnogi datblygu sector data gwyrdd yng Nghymru;

d) sicrhau bod cynaladwyedd yn sail i bob penderfyniad a wneir wrth ymdrin â data gan gyrff cyhoeddus;

e) annog arloesi yn i helpu i dad-garboneiddio ac i gyrraedd amcanion net sero cenedlaethol.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.16

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM8155 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig am Fil ar leihau ôl-troed carbon digidol 

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:

a) ymateb i’r angen i fod yn fwy effeithlon yn ein defnydd o ddigidol yng Nghymru, fel rhan o’r ymdrech i gyrraedd net sero, yn benodol o ran defnydd ynni i redeg platfformau digidol;

b) cynnwys strategaeth i ymdrin â data sy’n cael eu creu, eu cadw a’u prosesu mewn ffordd fwy effeithlon o ran defnydd ynni;

c) gosod targedau ar gyfer sicrhau bod canolfannau data yn rhedeg yn y modd mwyaf effeithlon, yn cynnwys drwy ddefnyddio ffynhonnellau ynni adnewyddadwy, a thrwy hynny gefnogi datblygu sector data gwyrdd yng Nghymru;

d) sicrhau bod cynaladwyedd yn sail i bob penderfyniad a wneir wrth ymdrin â data gan gyrff cyhoeddus;

e) annog arloesi i helpu i dad-garboneiddio ac i gyrraedd amcanion net sero cenedlaethol.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

34

16

1

51

Derbyniwyd y cynnig.