Cyfarfodydd

P-06-1320 Dyrannu cyllid ychwanegol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot i sicrhau ei fod yn gynaliadwy

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 03/07/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-06-1320 Dyrannu cyllid ychwanegol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot i sicrhau ei fod yn gynaliadwy

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd ei gamau blaenorol i aros am y gyllideb derfynol a'r setliad Llywodraeth Leol. O ystyried bod hyn bellach wedi mynd heibio cytunodd yr Aelodau i ddiolch i'r deisebydd a chau'r ddeiseb. 

 


Cyfarfod: 06/02/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)

2 P-06-1320 Dyrannu cyllid ychwanegol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot i sicrhau ei fod yn gynaliadwy

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Luke Fletcher AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae wedi cwrdd â'r deisebydd ar rai achlysuron.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i'w chadw ar agor nes bod y gyllideb derfynol a’r setliad Llywodraeth Leol yn cael eu cyhoeddi.