Cyfarfodydd

P-06-1319 Rhowch groesfan i gerddwyr ar yr A4042 wrth groesffordd Goytre Arms a lleihau'r terfyn cyflymder i 20mya

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 03/07/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-06-1319 Rhowch groesfan i gerddwyr ar yr A4042 wrth groesffordd Goytre Arms a lleihau’r terfyn cyflymder i 20mya

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod:

 

·       gwaith ar y groesffordd wedi dechrau;

·       mae’r Gweinidog wedi darparu ymateb cynhwysfawr i’r materion a godwyd gan y deisebydd; a

·       bydd canllawiau newydd ynghylch terfynau cyflymder yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach eleni.

 

Yng ngoleuni hyn, llongyfarchodd y Pwyllgor y deisebydd ar ei ymgyrch i wneud y groesffordd yn ddiogel a chytunodd i gau’r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 13/03/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)

2 P-06-1319 Rhowch groesfan i gerddwyr ar yr A4042 wrth groesffordd Goytre Arms a lleihau’r terfyn cyflymder i 20mya

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytuno i'w chadw ar agor tra’n disgwyl yr adroddiad cyfnod 2, ac i anfon ymateb y deisebydd ymlaen at y Dirprwy Weinidog yn y cyfamser i ofyn am ei farn arno.