Cyfarfodydd

P-06-1317 Cydnabod pwysigrwydd Cynorthwywyr Addysgu fel asedau pwysig i ysgolion drwy godi eu cyflog

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 03/07/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-06-1317 Cydnabod pwysigrwydd Cynorthwywyr Addysgu fel asedau pwysig i ysgolion drwy godi eu cyflog

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd y gwaith parhaus a’r trafodaethau o ran safoni a gwella amodau gwaith ar gyfer Cynorthwywyr Addysgu. 

 

Yng ngoleuni'r gwaith sydd eisoes ar y gweill i fynd i'r afael â’r materion, cytunodd yr Aelodau i gadw'r ddeiseb ar agor ac i ofyn am ddiweddariad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ym mis Ionawr 2024.

 


Cyfarfod: 27/02/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1317 Cydnabod pwysigrwydd Cynorthwywyr Addysgu fel asedau pwysig i ysgolion drwy godi eu cyflog

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb, a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn:

 

  • ei barn ar sut i wella cyflog ac amodau gwaith cynorthwywyr addysgu;
  • beth allant ei wneud i annog awdurdodau lleol i fabwysiadu'r disgrifiadau swydd newydd sy'n cael eu datblygu;
  • pa waith sy'n digwydd yn benodol i sicrhau bod gan gynorthwywyr addysgu gontractau blwyddyn lawn yn hytrach na chontractau yn ystod y tymor yn unig; ac

a yw’n credu y byddai cynyddu cyllidebau awdurdodau lleol ar gyfer addysg a chlustnodi canran ar gyfer cyflogaeth cynorthwywyr addysgu yn ffordd effeithiol o fynd i’r afael â rhai o’r heriau.