Cyfarfodydd

P-06-1315 Rhoi'r gorau i'r defnydd o gontractau allanol yng Nghanolfan Awyr Agored Genedlaethol Cymru, Plas Menai

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 06/02/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)

2 P-06-1315 Rhoi'r gorau i’r defnydd o gontractau allanol yng Nghanolfan Awyr Agored Genedlaethol Cymru, Plas Menai

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Jack Sargeant AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae'n adnabod y deisebydd.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod y deisebydd yn datgan yn ei ohebiaeth fod y broses o allanoli gwasanaethau Plas Menai i Legacy Leisure wedi dechrau ar 1 Chwefror a'i fod yn deall na all y Pwyllgor wneud rhagor o waith ar y mater.

 

Yn sgil hyn cytunodd yr Aelodau i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd am godi ymwybyddiaeth o’r mater.