Cyfarfodydd
NDM8161 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ardrethi busnes ar gyfer llety hunanddarpar
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 07/12/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 10)
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ardrethi busnes ar gyfer llety hunanddarpar
NDM8161 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried y pryderon difrifol a fynegwyd gan
ddarparwyr llety hunanddarpar ledled Cymru ynghylch y cyfnod asesu ar
gyfer penderfynu ar gymhwystra ar gyfer cymhwyso ar gyfer ardrethi busnes yn
2022-2023, a diwygio'r rheoliadau yn unol â hynny.
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod:
a) bod Llywodraeth
Cymru wedi ymgynghori’n eang ynghylch newidiadau i’r meini prawf a ddefnyddir i
gategoreiddio llety hunanddarpar fel eiddo annomestig at ddibenion treth lleol,
a fydd yn dod i rym o fis Ebrill 2023.
b) na chaiff
cydymffurfiaeth â’r meini prawf newydd ei hasesu tan ar ôl 1 Ebrill 2023.
c) bod y newidiadau
hyn yn rhan o becyn ehangach o fesurau sydd wedi’u cynllunio i gefnogi cymunedau
lleol llewyrchus, lle y gall pobl fforddio byw a gweithio gydol y flwyddyn.
[Os derbynnir
gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol]
Gwelliant 2 Sian Gwenllian (Arfon)
Dileu popeth a
rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod y
pryderon a fynegwyd gan ddarparwyr llety hunanddarpar, sydd dan bwysau o
ganlyniad i blatfformau fel AirBnB.
2.
Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru barhau i gynnal argymhellion yr ymgynghoriad
diweddar i sicrhau y gellir gwahaniaethu rhwng llety hunanddarpar gwirioneddol ac
eiddo domestig o safbwynt trethi lleol.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 18.04
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM8161 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i ystyried y pryderon difrifol a fynegwyd gan ddarparwyr llety
hunanddarpar ledled Cymru ynghylch y cyfnod asesu ar gyfer penderfynu ar
gymhwystra ar gyfer cymhwyso ar gyfer ardrethi busnes yn 2022-2023, a diwygio'r
rheoliadau yn unol â hynny.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
14 |
0 |
36 |
50 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod:
a) bod Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori’n eang ynghylch
newidiadau i’r meini prawf a ddefnyddir i gategoreiddio llety hunanddarpar fel
eiddo annomestig at ddibenion treth lleol, a fydd yn dod i rym o fis Ebrill
2023.
b) na chaiff cydymffurfiaeth â’r meini prawf newydd
ei hasesu tan ar ôl 1 Ebrill 2023.
c) bod y newidiadau hyn yn rhan o becyn ehangach o
fesurau sydd wedi’u cynllunio i gefnogi cymunedau lleol llewyrchus, lle y gall
pobl fforddio byw a gweithio gydol y flwyddyn.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
24 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gan fod gwelliant 1 wedi ei dderbyn, cafodd
gwelliant 2 ei ddad-ddethol
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM8161 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod:
a) bod Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori’n eang ynghylch
newidiadau i’r meini prawf a ddefnyddir i gategoreiddio llety hunanddarpar fel
eiddo annomestig at ddibenion treth lleol, a fydd yn dod i rym o fis Ebrill
2023.
b) na chaiff cydymffurfiaeth â’r meini prawf newydd
ei hasesu tan ar ôl 1 Ebrill 2023.
c) bod y newidiadau hyn yn rhan o becyn ehangach o
fesurau sydd wedi’u cynllunio i gefnogi cymunedau lleol llewyrchus, lle y gall
pobl fforddio byw a gweithio gydol y flwyddyn.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
35 |
0 |
15 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.