Cyfarfodydd
NDM8093 Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 07/12/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 6)
- Gweddarllediad ar gyfer 07/12/2022 - Y Cyfarfod Llawn
- Trawsgrifiad ar gyfer 07/12/2022 - Y Cyfarfod Llawn
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
NDM8093 Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig am
Fil a fyddai'n gwneud darpariaeth i annog defnyddio Iaith Arwyddion Prydain
(BSL) yng Nghymru, a gwella mynediad at addysg a gwasanaethau yn BSL.
2. Yn nodi mai pwrpas
y Bil fyddai:
a) cael gwared ar y
rhwystrau sy'n bodoli i bobl fyddar a'u teuluoedd mewn addysg, iechyd,
gwasanaethau cyhoeddus, gwasanaethau cymorth ac yn y gweithle;
b) cryfhau saith nod
llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn y modd y maent
yn ymwneud â BSL;
c) gweithio tuag at
sicrhau nad yw pobl fyddar sy'n defnyddio BSL yn cael eu trin yn llai ffafriol
na'r rhai sy'n siarad Cymraeg neu Saesneg;
d) sicrhau bod gan
gymunedau byddar lais wrth ddylunio a darparu gwasanaethau i sicrhau eu bod yn
diwallu eu hanghenion;
e) sefydlu Comisiynydd
BSL a fydd yn:
(i) llunio safonau
BSL;
(ii) sefydlu panel
cynghori BSL;
(iii) llunio adroddiadau
bob pum mlynedd yn BSL, Cymraeg a Saesneg ar sefyllfa BSL yn y cyfnod hwnnw;
(iv) darparu arweiniad
a phroses i gyrff cyhoeddus hyrwyddo a hwyluso BSL yn eu priod barthau;
f) sefydlu gweithdrefn
ar gyfer ymchwilio i gwynion;
g) ei gwneud yn
ofynnol i gyrff cyhoeddus adrodd ar eu cynnydd o ran hyrwyddo a hwyluso BSL
drwy eu cylch cofnodi Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015;
h)
rhoi dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i baratoi a chyhoeddi adroddiad blynyddol
BSL sy'n disgrifio'r hyn y mae adrannau Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i
hyrwyddo'r defnydd o BSL.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.00
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM8093 Mark Isherwood
(Gogledd Cymru)
Cynnig
bod y Senedd:
1.
Yn nodi cynnig am Fil a fyddai'n gwneud darpariaeth i annog
defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL) yng Nghymru, a gwella
mynediad at addysg a gwasanaethau yn BSL.
2.
Yn nodi mai pwrpas y Bil fyddai:
a)
cael gwared ar y rhwystrau sy'n bodoli i bobl fyddar a'u teuluoedd mewn addysg,
iechyd, gwasanaethau cyhoeddus, gwasanaethau cymorth ac yn y gweithle;
b)
cryfhau saith nod llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015
yn y modd y maent yn ymwneud â BSL;
c)
gweithio tuag at sicrhau nad yw pobl fyddar sy'n defnyddio BSL yn cael eu trin
yn llai ffafriol na'r rhai sy'n siarad Cymraeg neu Saesneg;
d)
sicrhau bod gan gymunedau byddar lais wrth ddylunio a darparu gwasanaethau i
sicrhau eu bod yn diwallu eu hanghenion;
e)
sefydlu Comisiynydd BSL a fydd yn:
(i)
llunio safonau BSL;
(ii)
sefydlu panel cynghori BSL;
(iii)
llunio adroddiadau bob pum mlynedd yn BSL, Cymraeg a Saesneg ar sefyllfa BSL yn
y cyfnod hwnnw;
(iv)
darparu arweiniad a phroses i gyrff cyhoeddus hyrwyddo a hwyluso BSL yn eu
priod barthau;
f)
sefydlu gweithdrefn ar gyfer ymchwilio i gwynion;
g)
ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus adrodd ar eu cynnydd o ran hyrwyddo a
hwyluso BSL drwy eu cylch cofnodi Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru)
2015;
h)
rhoi dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i baratoi a chyhoeddi adroddiad blynyddol
BSL sy'n disgrifio'r hyn y mae adrannau Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i
hyrwyddo'r defnydd o BSL.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
38 |
12 |
0 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig.