Cyfarfodydd

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Esgyll Siarcod

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 17/01/2023 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 11)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Esgyll Siarcod

NDM8175 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Ddeddf Esgyll Siarcod i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Tachwedd 2022, yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Y Bil Esgyll Siarcod (Saesneg yn unig)

Dogfennau Ategol
Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.38

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM8175 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Ddeddf Esgyll Siarcod i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Tachwedd 2022, yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Y Bil Esgyll Siarcod (Saesneg yn unig)

Dogfennau Ategol
Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

41

0

10

51

Derbyniwyd y cynnig.


Cyfarfod: 16/01/2023 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 17)

17 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Esgyll Siarcod: Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd arno.


Cyfarfod: 09/01/2023 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 9)

9 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Esgyll Siarcod: Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft, a chytunodd i drafod fersiwn ddiwygiedig yn y cyfarfod nesaf.


Cyfarfod: 12/12/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 13)

13 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Esgyll Siarcod

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru, a chytunodd i drafod ei adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.