Cyfarfodydd
Ymgysylltu â’r Cyhoedd mewn Llywodraeth Leol
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 19/06/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)
Opsiynau ar gyfer ymdrin ag ymgysylltiad y cyhoedd â llywodraeth leol
Cofnodion:
5.1 Trafododd y Pwyllgor yr opsiynau ar gyfer ymdrin ag adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar ymgysylltiad y cyhoedd â llywodraeth leol.
Cyfarfod: 19/06/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 Sesiwn friffio gydag Archwilydd Cyffredinol Cymru ar ymgysylltiad y cyhoedd â llywodraeth leol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 5 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (3/1)
Cofnodion:
3.1 Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Archwilydd Cyffredinol Cymru ac Alan Morris, Cyfarwyddwr Grŵp – Archwilio Perfformiad, roi sesiwn friffio i’r Pwyllgor ar adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar ymgysylltiad y cyhoedd â llywodraeth leol.
3.2 Cytunodd y Pwyllgor i wahodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i roi enghreifftiau o’r ymarferion i ymgysylltu â’r cyhoedd sy’n cael eu rhoi ar waith gan gynghorau yng Nghymru.
3.3 Cytunodd yr Archwilydd Cyffredinol i roi enghreifftiau o arfer da a nodwyd yn ystod ei archwiliad ac i roi adborth ar ganlyniadau’r Seminar Cyd-ddysgu ar ymgysylltu â’r cyhoedd yng Nghymru.