Cyfarfodydd
Adolygiad ar Pleidleisio drwy Ddirprwy
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 14/03/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Meysydd posibl ar gyfer ymestyn: materion i'w trafod
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
- Cyfyngedig 3
Cofnodion:
Dychwelodd y
Pwyllgor Busnes at y materion yn ymwneud â meysydd posibl ar gyfer ymestyn fel
rhan o'i adolygiad o bleidleisio drwy ddirprwy.
Datganodd
Darren Millar wrthwynebiad y Grŵp Ceidwadol i gadw neu ymestyn
darpariaethau presennol pleidleisio drwy ddirprwy.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes, ar sail barn y mwyafrif, i gynnig
bod darpariaethau pleidleisio drwy ddirprwy yn cael eu hymestyn i gynnwys
salwch neu anaf hirdymor, cyfrifoldebau gofalu a phrofedigaeth. Ym mhob achos,
byddai’r hawl i ofyn am bleidlais drwy ddirprwy yn codi mewn amgylchiadau lle
byddai Aelod yn absennol o holl drafodion y Senedd.
Ar gyfer darpariaethau yn ymwneud â
salwch neu anaf hirdymor a chyfrifoldebau gofalu, byddai isafswm amser o bedair
wythnos ac uchafswm amser safonol o chwe mis, gyda'r gallu i hyn gael ei
ymestyn yn ôl disgresiwn y Llywydd. Bydd cyfnod pleidlais drwy ddirprwy yn sgil
profedigaeth yn cael ei gytuno rhwng yr Aelod a’r Llywydd.
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes y dylai’r trefniadau presennol ar gyfer cyhoeddi gwybodaeth am
gymhwysedd unigol ar gyfer pleidlais drwy ddirprwy barhau, gyda’r categori eang
o bleidlais drwy ddirprwy yn cael ei gynnwys pan fydd adroddiad ar y trefniant
yn cael ei osod gan y Llywydd.
Cododd Jane Dodds y ffordd y mae’r
broses pleidlais drwy ddirprwy yn gweithio i Aelodau nad ydynt yn rhan o
grŵp plaid. Cytunodd y Pwyllgor i ystyried hyn ymhellach wrth ystyried
diweddariadau drafft i'r canllawiau.
Cyfarfod: 14/03/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Adolygiad o bleidleisio drwy ddirprwy
Cyfarfod: 28/02/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Meysydd posibl ar gyfer ymestyn: materion i'w trafod
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 8
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor Busnes yr
ymatebion i'w ymgynghoriad ag Aelodau ac ystod o faterion yn ymwneud â meysydd
posibl ar gyfer ymestyn pleidleisio drwy ddirprwy fel rhan o'i adolygiad.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i
ymgynghori ymhellach â'u grwpiau pleidiau ar sail consensws sy'n dod i'r amlwg
ynghylch ymestyn darpariaethau pleidleisio drwy ddirprwy i gynnwys salwch neu
anaf hirdymor Aelod, cyfrifoldebau gofalu am ddibynnydd sydd â salwch neu anaf
hirdymor ac absenoldeb oherwydd profedigaeth, a dychwelyd at drafodaeth bellach
yn ei gyfarfod ar 14 Mawrth.
Datganodd Darren Millar
wrthwynebiad y Grŵp Ceidwadol i gadw neu ymestyn darpariaethau presennol
pleidleisio drwy ddirprwy.
Cyfarfod: 28/02/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Adolygiad o bleidleisio drwy ddirprwy
Cyfarfod: 14/02/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Adolygiad o bleidleisio drwy ddirprwy
Cyfarfod: 14/02/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Absenoldeb rhiant: materion i'w hystyried
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 15
Cofnodion:
Fel rhan
o'i adolygiad o drefniadau pleidleisio drwy ddirprwy, trafododd y Pwyllgor
Busnes yr ymatebion i'w ymgynghoriad ag Aelodau ac ystod o faterion yn ymwneud
â'r Rheolau Sefydlog dros dro ar bleidleisio drwy ddirprwy ar gyfer absenoldeb
rhiant.
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes, ar sail barn fwyafrifol, i gynnig y dylid gwneud y
darpariaethau presennol ar bleidleisio drwy ddirprwy ar gyfer absenoldeb rhiant
yn barhaol. Datganodd Darren Millar wrthwynebiad y Grŵp Ceidwadol i gadw'r
darpariaethau presennol.
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i gynnig y dylid diwygio uchafswm yr hyd i saith mis ar gyfer
mam neu dad baban, partner rhywun sy’n rhoi genedigaeth, rhiant sy’n mabwysiadu
neu ofalwr mewn trefniant â rhywun sy’n rhoi genedigaeth ar eu rhan, lle gellir
cymryd uchafswm o un mis cyn y dyddiad y disgwylir i’r baban gael ei eni, neu’r
dyddiad mabwysiadu, ac uchafswm o chwe mis ar ôl i’r baban gael ei eni neu’r
dyddiad mabwysiadu. Nododd y Llywydd nad y Llywydd ddylai benderfynu pa riant
sy’n brif ofalwr. Gofynnodd Siân Gwenllian am i ystyriaeth gael ei rhoi i'r
trefniadau a fyddai'n ymwneud â genedigaethau cynamserol pan gaiff y canllawiau
eu drafftio.
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes, os bydd unrhyw amwysedd, y dylai'r Llywydd barhau i allu
defnyddio eu disgresiwn wrth benderfynu ar faterion ynghylch cymhwysedd
unigolion i gael pleidlais drwy ddirprwy a hyd trefniadau o'r fath. Fodd
bynnag, cytunodd y Pwyllgor, pan fydd Aelod neu eu partner yn colli baban yn y
groth neu pan fydd baban yn marw ar enedigaeth mai dim ond i benderfynu ar hyd
trefniadau pleidleisio drwy ddirprwy ac nid cymhwysedd yr Aelod y dylid
defnyddio disgresiwn.
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i ddychwelyd at y mater o ba wybodaeth a gaiff ei chyhoeddi pan
fydd trefniant pleidleisio drwy ddirprwy yn cael ei gytuno unwaith y bydd wedi
ystyried y posibilrwydd o ymestyn darpariaethau pleidleisio drwy ddirprwy mewn
cyfarfod dilynol.
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i gynnig y dylid caniatáu pleidleisio drwy ddirprwy mewn pob
math o bleidleisio yn y Cyfarfod Llawn a Phwyllgor o'r Senedd Gyfan, gan
gynnwys y rhai sy'n gofyn am basio cynnig neu ddatrysiad ar bleidlais lle nad
yw nifer yr Aelodau sy'n pleidleisio o blaid yn llai na dwy ran o dair o
gyfanswm seddi'r Senedd, neu pan fyddai'r bleidlais drwy ddirprwy yn cyfrif
tuag at y nifer sydd ei angen ar gyfer cworwm.
Cyfarfod: 07/02/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Adborth o ymgynghoriad ag Aelodau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 18
Cofnodion:
Nododd y
Pwyllgor Busnes yr ymatebion i'w ymgynghoriad ar bleidleisio drwy ddirprwy
gyda'r Aelodau presennol a chyn-Aelodau a chytunodd i ystyried papur yn adolygu
treialu pleidleisio drwy ddirprwy ar gyfer absenoldeb rhieni yn y cyfarfod
canlynol, cyn ystyried estyniadau posibl i ddarpariaethau wedi hynny.
Cyfarfod: 07/02/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Adolygiad o bleidleisio drwy ddirprwy
Cyfarfod: 29/11/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Adolygiad o Bleidleisio drwy Ddirprwy
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor Busnes nifer o
ystyriaethau yn ymwneud â’r Adolygiad o Bleidleisio drwy Ddirprwy. Yn sgil
datblygu dulliau o gymryd rhan o bell a phleidleisio o bell yn nhrafodion y
Senedd, cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cyfyngu cymhwysedd ar gyfer
pleidlais drwy ddirprwy i sefyllfaoedd lle y disgwylid i Aelod fod yn absennol
o holl drafodion y Senedd. Wedi gwneud hynny, cytunodd y Pwyllgor Busnes y
dylai’r ymgynghoriad gydag Aelodau ddechrau yr wythnos nesaf a rhedeg hyd at
ddiwedd ail wythnos y tymor yn 2023.
Cyfarfod: 29/11/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Cwmpas yr adolygiad a’r papur ymgynghori i’r Aelodau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 25
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor Busnes nifer o ystyriaethau yn ymwneud â’r Adolygiad o Bleidleisio
drwy Ddirprwy. Yn sgil datblygu dulliau o gymryd rhan o bell a phleidleisio o
bell yn nhrafodion y Senedd, cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cyfyngu
cymhwysedd ar gyfer pleidlais drwy ddirprwy i sefyllfaoedd pan fydd Aelod yn
absennol o holl drafodion y Senedd. Wedi gwneud hynny, cytunodd y Pwyllgor
Busnes y dylai’r ymgynghoriad gydag Aelodau ddechrau yr wythnos nesaf a rhedeg
hyd at ddiwedd ail wythnos y tymor yn 2023 (20 Ionawr 2023).