Cyfarfodydd

P-04-400 Safon Ansawdd NICE ym Maes Iechyd Meddwl

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 14/05/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-400 Safon Ansawdd NICE ym Maes Iechyd Meddwl

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb gan ei bod wedi'i nodi mewn gohebiaeth flaenorol bod y Safonau Ansawdd yn cael eu mabwysiadu.

 

 


Cyfarfod: 19/03/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-400 Safon Ansawdd NICE ym Maes Iechyd Meddwl

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd yn amlygu pryderon Hafal a Mind Cymru am Ran Dau’r Mesur Iechyd Meddwl a rôl Cymru yn natblygiad safonau NICE.


Cyfarfod: 15/01/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-400 Safon Ansawdd NICE ym Maes Iechyd Meddwl

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i:

Ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn amlinellu pryderon penodol a godwyd gan y deisebydd a gofyn iddi ymateb yn uniongyrchol iddynt, a gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith a wneir gan swyddogion gyda NICE er mwyn mabwysiadu Safon Ansawdd NICE yng Nghymru;

Ysgrifennu at Gofal, Hafal a Mind Cymru i ofyn am eu barn ar y materion a godwyd gan y ddeiseb hon.

 


Cyfarfod: 16/10/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-400 Safon ansawdd NICE ym maes iechyd meddwl

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb hon a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i amlygu’r pryderon a fynegwyd yn y wybodaeth ategol bellach a gafwyd gan y deisebwyr.

 

 


Cyfarfod: 19/06/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-400 Safon ansawdd NICE ym maes iechyd meddwl

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb hon am y tro cyntaf, a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i geisio ei barn am y ddeiseb.