Cyfarfodydd

P-06-1309 Dylai Llywodraeth Cymru gynnal refferendwm cyn ehangu maint y Senedd

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 09/01/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)

2 P-06-1309 Dylai Llywodraeth Cymru gynnal refferendwm cyn ehangu maint y Senedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a dywedodd Joel James ei fod o blaid cynnal refferendwm. Nododd Aelodau eraill fod nifer o bwyllgorau’r Senedd wedi ystyried y mater yn ofalus iawn, ac roeddent i gyd wedi argymell bod angen cynyddu nifer yr Aelodau o’r Senedd er mwyn medru craffu’n effeithiol ar Lywodraeth Cymru.  Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn cyflwyno Bil Diwygio’r Senedd yn y flwyddyn newydd a bydd hwn eto’n gyfle i’r Senedd drafod y materion hyn a chraffu arnynt. O ystyried hynny, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb, gan ddiolch i’r deisebydd.