Cyfarfodydd

Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 29/01/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8.)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol - Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio - Diddymu'r Bwrdd Cyflogau Amaethyddol ar gyfer Cymru a Lloegr

NDM5138 Alun Davies (Blaenau Gwent)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau'r Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio sy’n ymwneud â diddymu Bwrdd Cyflogau Amaethyddol Cymru a Lloegr, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol.

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Ionawr 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).

Dogfennau Ategol
I weld copi o’r Bil ewch i:
Dogfennau’r Bil — Y Bil Menter a Diwygio RheoleiddioSenedd y DU (Saesneg yn unig)
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Nodyn Cyngor Cyfreithiol

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.44

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5138 Alun Davies (Blaenau Gwent)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau'r Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio sy’n ymwneud â diddymu Bwrdd Cyflogau Amaethyddol Cymru a Lloegr, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol.

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Ionawr 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

18

0

33

51

Gwrthodwyd y cynnig.


Cyfarfod: 29/01/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7.)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol - Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio - Darpariaethau i'w gwneud yn ofynnol i gyflenwyr nwyddau a gwasanaethau ddarparu data electronig i gwsmeriaid

NDM5139 Edwina Hart (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau’r Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio ynghylch y gofyniad bod cyflenwyr nwyddau a gwasanaethau yn darparu data cwsmeriaid i’r graddau y mae hyn yn rhan o gymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Ionawr 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).

Dogfennau Ategol
I weld copi o’r Bil ewch i:
http://services.parliament.uk/bills/2012-13/enterpriseandregulatoryreform/documents.html
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Nodyn Cyngor Cyfreithiol

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.40

NDM5139 Edwina Hart (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau’r Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio ynghylch y gofyniad bod cyflenwyr nwyddau a gwasanaethau yn darparu data cwsmeriaid i’r graddau y mae hyn yn rhan o gymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Ionawr 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 20/11/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.)

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio – pwerau i gynnwys darpariaethau machlud ac adolygu mewn is-ddeddfwriaeth

NNDM5061 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau’r Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio sy’n ymwneud â phŵer i Weinidogion Cymru gynnwys cymalau machlud ac adolygu mewn is-ddeddfwriaeth, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Hydref 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).

Dogfennau Ategol
I weld copi o’r Bil ewch i:
http://services.parliament.uk/bills/2012-13/enterpriseandregulatoryreform/documents.html
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol



 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.09

NNDM5061 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau’r Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio sy’n ymwneud â phŵer i Weinidogion Cymru gynnwys cymalau machlud ac adolygu mewn is-ddeddfwriaeth, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Hydref 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


Cyfarfod: 06/11/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8.)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio sy'n ymwneud â'r Banc Buddsoddi Gwyrdd

NDM5040 Edwina Hart (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau'r Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio sy’n ymwneud â’r Banc Buddsoddi Gwyrdd (y”BBG”), i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Gorffennaf 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).

Dogfennau Ategol

I weld copi o’r Bil ewch i:
Bill documents — Enterprise and Regulatory Reform Bill 2012-13 — UK Parliament
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Adroddiad Y Pwyllgor Menter a Busnes
Adroddiad Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd

 

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15:47

NDM5040 Edwina Hart (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau'r Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio sy’n ymwneud â’r Banc Buddsoddi Gwyrdd (y ”BBG”), i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

 

 


Cyfarfod: 05/11/2012 - Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)

4. Y Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio: Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol

Papurau:

CLA(4)-22-12(t1) - Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

Y Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio – Pwerau i Gynnwys Darpariaethau Machlud ac Adolygu Mewn Is-ddeddfwriaeth

CLA(4)-22-12(t2) – Adroddiad y Cynghorwyr Cyfreithiol

 

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 04/10/2012 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Senedd y DU ynghylch Menter a Diwygio Rheoleiddio – Banc Buddsoddi Gwyrdd

E&S(4)-23-12 papur 4

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 03/10/2012 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

Ystyried y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Banc Buddsoddi Gwyrdd y DU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1     Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio.

 

3.2     Nododd y Cadeirydd bod yn rhaid i’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad erbyn 1 Tachwedd 2012.


Cyfarfod: 25/09/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8.)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio

NDM5012 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau’r Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio, fel y’i cyflwynwyd yn Nhŷ’r Cyffredin ar 23 Mai 2012 sy’n ymwneud â diwygiadau i Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Mehefin 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).


Dogfennau Ategol

I weld copi o’r Bil ewch i:

 

Dogfennau'r Bil — Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio 2012-13 — Senedd y DU

Adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16:57

 

NDM5012 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau’r Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio, fel y’i cyflwynwyd yn Nhŷ’r Cyffredin ar 23 Mai 2012 sy’n ymwneud â diwygiadau i Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


Cyfarfod: 19/07/2012 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Y Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio - Dŵr: Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol

E&S(4)-21-12 papur 2

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cytunodd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad ar y ffaith nad oes ganddo wrthwynebiad i ddefnyddio’r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn, fel y’i cynigiwyd gan Lywodraeth Cymru.